Pen y Mwd

Oddi ar Wicipedia
Pen y Mwd
Mathcastell mwnt a beili Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTeyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
LleoliadAbergwyngregyn Edit this on Wikidata
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.233925°N 4.014488°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6566872640 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN007 Edit this on Wikidata

Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Pen y Mwd, heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: pentref Abergwyngregyn, Gwynedd; cyfeiriad grid SH656726. Mae'n bosib mai ffurf ar y gair 'mwnt' ('mwnt a beili') yw 'mwd' yn yr enw yma, neu dalfyriad o 'mwdwl' (gw. 'Pen y Mwdwl, Bro Gernyw).

Cysylltir y castell hwn â theyrnasiad Llywelyn Fawr, ei fab Dafydd ap Llywelyn a'i ŵyr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Lleolid prif lys Teyrnas Gwynedd gerllaw, efallai ar safle Pen-y-bryn. Mae'r castell yn amddiffyn yr hen ffordd dros Fwlch y Ddeufaen ac yn gwarchod y fferi strategol dros Afon Menai i Lanfaes, prif borthladd Gwynedd yng nghyfnod y Tywysogion.

Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: CN007 .[1]

Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry. Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Data Cadw
  2. ["Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-10-25. Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)]