Pen y Dinas, Llandudno

Oddi ar Wicipedia
Pen-y-Dinas
Mathcaer bentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3296°N 3.8348°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH77908295 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN039 Edit this on Wikidata

Mae Pen y Dinas yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ar Ben y Gogarth, Llandudno yn Sir Conwy, Cymru; cyfeirnod OS: SH779829; rhif NPRN: 303125. Yn anarferol, ni ellir gweld, bellach, lle mae'r fynediad i'r gaer; ond ceir olion chwech adeilad y tu fewn i'r fryngaer.

Yn y 19g cafwyd ymchwiliad archaeoloegol o un o'r adeiladau mewnol hyn, a chafwyd hyd i 'esgyrn anifeiliaid, cregyn llygaid meheryn a malwod a darn o lestri Samiaidd, o Gâl'. Ceir adeilad arall, y mwyaf gogleddol, sydd o'r un maint a siap a'r prif adeilad yng Nghastell Dinas Emrys.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN039.<gwefan Coflein; adalwyd 19 Mehefin 2023.</ref> Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[1] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[2] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[3]

Pen-y-Dinas yw'r bryncyn agosaf (ar Ben y Gogarth) i dref Llandudno

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  2. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
  3. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.