Península Valdés
Oddi ar Wicipedia
Gorynys neu benrhyn ar arfodir Talaith Chubut yn yr Ariannin yw'r Península Valdés. Mae'n un o'r saith Safle Treftadaeth y Byd a ddynodwyd gan UNESCO yn yr Ariannin.
I'r gogledd o'r penrhyn mae'r Golfo San José ac i'r de y Golfo Nuevo ("y Bae Newydd"). Yr unig dref ar y penrhyn yw Puerto Pirámides; y ddinas agosaf yw Porth Madryn.
Ceir amrywiaeth o anifeiliaid yma, yn arbennig Pengwin Magellan, Eliffantod Môr a Morlewod. Yr atyniad mwyaf i dwristiaid yw'r cyfle i weld morfilod
Dolen allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: