Pedryn Cynffon-fforchog
| Pedryn Cynffon-fforchog | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Procellariiformes |
| Teulu: | Hydrobatidae |
| Genws: | Oceanodroma |
| Rhywogaeth: | O. leucorhoa |
| Enw deuenwol | |
| Oceanodroma leucorhoa (Vieillot, 1818) |
|
Aelod o deulu'r Hydrobatidae, y pedrynnod, yw'r Pedryn Cynffon-fforchog, hefyd Pedryn Llach (Oceanodroma leucorhoa).
Mae'n nythu ar ynysoedd yn rhannau gogleddol Cefnfor Iwerydd a'r Cefnfor Tawel, fel rheol gannoedd neu filoedd o adar gyda'i gilydd. Ceir y nifer fwyaf yn nythu ar Ynys Baccalieu yn nwyrain Canada, lle mae tua 3 miliwn o barau. Mae'n nythu mewn tyllau yn y ddaear neu agen mewn craig, ac yn dodwy un ŵy yn unig.
Dim ond yn y nos y mae'n dod at y nyth, er mwyn osgoi gwylanod ac adar ysglyfaethus. Mae'n aderyn ychydig yn fwy na'r Pedryn Drycin, ac mae'r fforch yn y gynffon yn gymorth i'w wahaniaethu oddi wrth y rhywogaeth yma.
Nid yw'n nythu o gwmpas arfordir Cymru, ond gellir gweld cryn nifer yn yr hydref oddi ar yr arfordir gogleddol ambell flwyddyn, pan mae'r adar yn symud tua'r de.