Efengyl

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pedair Efengyl)
II

Testun crefyddol efengylaidd sy'n honni adrodd hanes am Iesu o Nasareth yw efengyl. Cysylltir y gair yn bennaf â'r Pedair Efengyl a geir ar ddechrau'r Testament Newydd yn y Beibl Cristnogol, ond mae'n derm a geir yn nheitlau sawl testun arall hefyd.

Daw'r gair o'r Groeg "euangelion" a'r Lladin "evangelium") a gelwir y pedwar llyfr cyntaf yn y Testament Newydd yn "Efengylau" a'r pedwar Disgybl yn "Efengylwyr". Mae'r cyfieithiad Saesneg "Gospel", fodd bynnag, yn tarddu o'r hen Saesneg "Newyddion Da".

Y Pedair Efengyl[golygu | golygu cod]

Y Pedair Efengyl canonaidd yw:

Efengylau eraill[golygu | golygu cod]

Yn y llenyddiaeth apocryffaidd a gysylltir â'r Testament Newydd ond nas derbynnir fel rhan o'r llyfr hwnnw bellach, ceir sawl efengyl, e.e. Efengyl Nicodemus, a fu'n destun poblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol. Mae testunau eraill yn cynnwys efengylau apocryffaidd a briodolir i Philip, Mathew, Sant Pedr, ac eraill. Math o efengyl hefyd yw'r testun apocryffaidd Cymraeg Canol Mabinogi Iesu Grist.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Y Beibl Cymraeg Newydd
  • The Apocryphal New Testament, gol. a chyf. M. R. James (Rhydychen, 1924; sawl argraffiad diweddarach)
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.