Paul O'Grady

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Paul O'Grady

Digrifwr a chyflwynydd teledu Seisnig yw Paul James O'Grady MBE (ganwyd 14 Mehefin 1955). Daeth yn enwog fel crëwr y cymeriad drag Lily Savage (y "Birkenhead bombshell"), gwraig gomon o Benbedw. Mae'n adnabyddus am ei acen Lerpwl gref ac mae'n cyflwyno'r gyfres deledu The Paul O'Grady Show, sydd ar Channel 4 yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd.

Bywgraffiad[golygu]

Cafodd ei eni ym Mhenbedw ar benrhyn Cilgwri (y Wirral) i dad Gwyddelig a chafodd ei fagu yn Tranmere.

Gweithiodd mewn amryw o swyddi gan gynnwys yn y gwasanaeth sifil, tu ôl i far mewn Yates Wine Lodge, mewn swyddfa lladd-dy ac fel clerc cynorthwyol yn Llys Ynadon Lerpwl. Bu hefyd yn gweithio mewn cartref plant yn Ngorllewin Kirby a threuliodd rai blynyddoedd fel swyddog gofal peripatetig i gyngor Camden. Yn 2003 cafodd ei gynnwys yn rhestr The Observer o'r 50 act mwyaf doniol yng nghomedi Brydeinig, ac yn 2006 roedd yn rhif 32 ar restr The Independent o'r 101 o ddynion a menywod hoyw mwyaf dylanwadol ym Mhrydain.

Creu Cymeriad Lily Savage[golygu]

Ym 1977, aeth O'Grady i Manila lle gweithiodd fel gweinydd yn Gussy's Bar (a oedd hefyd yn buteindy). Fan yma, cafodd y syniad o Lily Savage, y cymeriad drag a grëodd. Ar ddechrau'r 1980au, dychwelodd i'r Deyrnas Unedig a daeth ei greadigaeth newydd, Lily Savage, ag enwogrwydd iddo. Perfformiodd mewn clybiau a bariau hoyw ledled y wlad. Ar y pryd, cawsai Lily ei hadnabod am ei pherfformiadau rheolaidd yn The Royal Vauxhall Tavern yn Llundain lle gweithiodd am wyth mlynedd. Cydweithiodd gyda nifer o actiau eraill megis 'High Society'gyda Adrella (Peter Searle), 'L.S.D.' gyda David Dale a Sandra Hush (David Hunter), 'The Playgirls' unwaith eto gyda Hunter a The Glamazons gyda'r cyn-nyrs Paul Banks. Teithiodd ledled Ewrop gyda rhai o'r perfformwyr yma, gan wneud sioeau yn Madame Arthurs yn Denmarc ac amryw o glybiau nos a theatrau yn yr Almaen, y Ffindir, Sweden, yr Iseldiroedd, Ffrainc ac Isreal. Wedi iddo ymddangos yng Ngwyl Caeredin, lle cafodd ei enwebu am Wobr Perrier, cynyddodd ei boblogrwydd ac ymwybyddiaeth y cyhoedd cyffredinol ohono. Daeth yn fwy enwog wrth iddo ymddangos ar y teledu ar raglen ddyddiol ITV This Morning ac fel "Y Cyflwynydd ar y Gwely" ar The Big Breakfast. Rhoddwyd nifer o raglenni teledu gwahanol i Lily gan y BBC ac ITV ac er fod y nifer o wylwyr yn ddigon derbyniol, nid oeddent y llwyddiant ysgubol roedd y ddau sianel yn gobeithio amdano.

Am rai blynyddoedd, cyflwynodd Lily y rhaglen Blankety Blank ar gyfer y BBC ac yna ar gyfer ITV, yn ogystal â'i rhaglen gomedi ei hun ar ITV 'Lily Live' yn 2000. Roedd Lily Savage hefyd wedi cyflwyno'r Smash Hits Poll Winners Party yn 1996 ar y cyd â Ant & Dec. Mewn cyfweliad yn 2006, dywedodd O'Grady fod Lily bellach yn byw mewn lleiandy yn Llydaw, er iddo ddweud sawl tro ers hynny ei bod wedi dianc o'r lleiandy, gan awgrymu i rhai efallai y bydd y cymeriad yn dychwelyd.

Gwaith Theatr[golygu]

Yn ogystal ag amryw o deithiau cenedlaethol, ymddangosodd O'Grady yn y sioe lwyfan Prisoner Cell Block H - The Musical, y sioe gerdd Annie fel "Miss Hannigan", Chitty Chitty Bang Bang fel "the Childcatcher" ac yn y pantomeim Eira Wen a'r Saith Corrach fel y Frenhines Greulon. Mae rhai pobl wedi'i ddyfynnu gan ddweud "I seem to be making a living frightening children".

Ei fywyd personol[golygu]

Yn y gorffennol, cafodd O'Grady berthynasau gyda menywod a bu unwaith yn briod â ffrind Portiwgeaidd. Bellach, mae'n agos iawn i'w ferch Sharon, a briododd ei chariad o'i phlentyndod Philip Mousley yn Neuadd y Dref Lerpwl ar y 30ain o Orffennaf, 2005. Bu farw partner hir-dymor O'Grady o 20 mlynedd, Brendam Murphy o gancr pum niwrnod cyn penblwydd O'Grady'n hanner cant. Ar ôl y rhageln gyntaf o'r drydedd gyfres o The Paul O'Grady Show, talwyd teyrnged iddo.

Mae O'Grady yn berchen ar fflat yn Llundain, a fferm yn Aldington ger Ashford, Swydd Gaint lle ei gymydog yw'r digrifwr Julian Clary. Mae ganddo gi hefyd o'r enw Buster sy'n ymddangos gydag ef yn rheolaidd ar ei rhaglen deledu.

Daeth O'Grady yn dadcu ar y 26ain o Ragfyr 2006, pan roddodd ei ferch enedigaeth i fab o'r enw Abel. Ar hyn o bryd, mae O'Grady mewn perthynas.[1]

Iechyd[golygu]

Ym mis Ebrill 2002, dioddefodd O'Grady o drawiad ar y galon ar ôl iddo deimlo'n anhwylus am rai wythnosau; ar ôl llawdriniaeth frys ac wythnosau o orffwys, dechreuodd wella a rhoddodd y gorau i ysmygu am ddwy flynedd. Ail-ddechreuodd O'Grady ysmygu 40 y dydd pan bu farw ei gariad a'i bartner busnes yn 2005. Dioddefodd ail drawiad ar y galon ar y 30ain o Fehefin, 2006; aethpwyd ag ef i Ysbyty William Harvey ac i'r uned gofal ddwys. Cafodd ei ryddhau ar y 4ydd o Orffennaf ac addawodd y byddai'n rhoi'r gorau i ysmygu.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Entertainer O'Grady collects MBE BBC News. 18-10-2008. Adalwyd ar 09-05-2009