Paul Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Paul Griffiths 2008

Mae Paul Griffiths yn ddramodydd, cyfarwyddwr a beirniad theatr (ganwyd yn Nolwyddelan, Sir Conwy, 8 Awst 1973). Ym mis Mehefin 2007 symudodd i Lundain i reoli Youth Music Theatre: UK, a ble mae'n parhau i fyw.[1] Enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd tair blynedd yn olynol rhwng 1995 a 1997, yr unig un i wneud hynny yn hanes y gystadleuaeth. Ers mis Mawrth 2006, bu'n cyfrannu colofn wythnosol am Fyd y Theatr yn Y Cymro. Mae'n wyneb a llais cyfarwydd ar S4C a BBC Radio Cymru fel beirniad ac adolygydd theatr.

Addysg[golygu | golygu cod]

Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Dolwyddelan, yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst a graddio ym 1994 yn y Coleg Normal, Prifysgol Cymru, Bangor. Enillodd Wobr Barcud am y gwaith fideo unigol gorau y flwyddyn honno. Tra yn y Coleg, Paul oedd Cadeirydd cyntaf Cymdeithas y Cyfathrebwyr a sefydlwyd i gadw cysylltiad gyda chyn-fyfyrwyr a chyn-ddarlithwyr y Cwrs.

Cwmni Ieuenctid Dolwyddelan[golygu | golygu cod]

Sefydlodd Gwmni Ieuenctid Dolwyddelan pan yn 13 oed a bu'r cwmni yn teithio led led Cymru gan ennill gwobrau am actio a chyfarwyddo mewn gwyliau dramâu amrywiol. Cyfansoddodd nifer o sgetsus byrion ar gyfer y Cwmni, yn ogystal â dwy ddrama wreiddiol Helynt y 'Dolig ym 1990 a Sul y Blodau ym 1991. Bu hefyd yn gyfrifol am addasu gwaith William Gwyn Jones a Branwen Cennard, ar gyfer y cwmni.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei ail-flwyddyn yn y Coleg, bu'n gweithio fel rhedwr gyda Ffilmiau'r Tŷ Gwyn o dan gyfarwyddyd Gareth Wynn Jones ar addasiad Harri Pritchard Jones o ddrama Saunders Lewis Brâd ar gyfer S4C. Wedi gadael y Coleg, aeth i weithio gyda Ffilmiau Eryri yn Y Felinheli fel Cynorthwy-ydd Cynhyrchu ar gyfresi teledu I Dir Drygioni a Tydi Coleg yn Grêt a'r ffilm Sgwâr y Sgorpion. Bu hefyd yn gweithio fel rhedwr i gwmniau Gwdihŵ a Tonfedd ar gyfresi fel Noson Lawen, Penblwydd Hapus, Shotolau ac Yma Mae Nghân : Dafydd Iwan. Ym 1995, treuliodd flwyddyn fel Is-Olygydd ffilm ar yr ail-gyfres o Lleifior i Ffilmiau Tŷ Gwyn ar gyfer S4C. Ymunodd â Chwmni Ifor ap Glyn Tafwys wedi hynny fel Ymchwilydd a bu'n gweithio ar y gyfres Diwrnod Gyda.... Pan sefydlwyd [Cwmni Da ym 1997, ymunodd â'r cwmni fel ymchwilydd a bu'n rhan o dîm cynhyrchu'r gyfres wythnosol Y Sioe Gelf am dair blynedd. Gadawodd Cwmni Da yn sgil derbyn sawl Comisiwn i gyfansoddi dramâu gan S4C cyn ymuno yn ddiweddarach gyda chwmni Tonfedd Eryri ble y bu'n rhan o dîm cynhyrchu'r cyfresi Tipyn o Stad, Naw tan Naw, a Bob a'i Fam. Bu hefyd yn gweithio fel ymchwilydd ar y ddwy gyfres o Diolch o Galon, Yma Mae Nghân : Corsica a darllediadau o'r Ŵyl Gerdd Dant. Dychwelodd at Cwmni Da yn 2004, ble bu'n gweithio fel Is-Gynhyrchydd ar amrywiaeth o gyfresi fel Popeth yn Gymraeg, Y Chwarelwr, Y Cymry ac America Gaeth, Love Hurts, Llygaid y Bwystfil, Frongoch - Prifysgol Chwyldro a'r Cyngerdd hanesyddol o dorri Record Guinness y Byd Jones, Jones, Jones. Gadawodd y Cwmni ym mis Mehefin 2007 i symud i Lundain.

Dramodydd[golygu | golygu cod]

Enillodd y comedi Sul y Blodau Dlws y Ddrama yn Eisteddfod Bro Aled, Llansannan ym 1991, ac yntau'n ddim ond yn ddeunaw oed. Beirniad y gystadleuaeth oedd Dorothy Jones, Llangwm. Cyfrannodd y wobr ariannol tuag at Gronfa Llinos Haf. Cyhoeddwyd y ddrama yn ddiweddarach fel rhan o Gyfres y Llwyfan[2]. Ers hynny, mae'r ddrama wedi'i llwyfannu gan gwmniau amrywiol o Gymdeithas Ddrama Rhuthun, i Eglwys Oaker Avenue, West Didsbury Manceinion a Chymdeithas Cymry Llundain[3]. Enillodd eto'n Mro Aled ym 1993 gyda'r ddrama fer Arian Parod. Bu Cwmni Drama Ffermwyr Ifanc Bro Siabod yn llwyddiannus gyda'r ddrama hon yng Nghystadlaeth Ddrama Clybiau Mudiad y Ffermwyr Ifanc Eryri ym 1994, gan fynd i gynrychioli'r Sir yn Theatr Hafren, Y Drenewydd.

Daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd ym Mro Glyndwr ym 1992[4], a dwy o'i ddramâu yn gydradd drydydd yn yr un gystadleuaeth ym Meirionnydd yn 1994. Ym 1995, enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Bro Preseli efo'r ddrama fer O Gysgod y Cyll, ac aeth ymlaen i ennill y Fedal dair blynedd yn olynnol ym Mro Maelor 1996 efo'r ddrama B'echdan? ac ym 1997 yn Islwyn efo'r ddrama Ai am fod haul yn machlud?. Addaswyd y ddwy ddrama olaf yn ddramâu teledu ar gyfer S4C Digidol o dan y teitlau B'echdan Ŵy? (Nant/Bont) efo Marged Esli, Morfydd Hughes a Manon Elis, cyfarwyddwr Siôn Lewis a'r olaf Traeth Coch[5] (Opus) efo Mali Harries a'r cyfarwyddwr Elen Bowman.

Cyd-gyfansoddodd a chyfarwyddodd pedair drama gerdd ar gyfer Gŵyl Fai Pwllheli ar y cyd ag Annette Bryn Parri a Glyn Roberts. O Docyn Brwyn i Ben Draw'r Byd oedd y gyntaf ym 1995 i ddathlu Canmlwyddiant geni'r bardd Cynan. Yn sgil llwyddiant yr Ŵyl, fe sefydlwyd yr Ŵyl Fai flynyddol o 1996 ymlaen, a chynhyrchwyd Dan Hwyl Wen y flwyddyn honno a Dan Gysgod y Graig ym 1997. Roedd y Cast yn cynnwys aelodau o gorau lleol a lleisiau adnabyddus fel Hogia'r Wyddfa, Rosalind a Myrddin, Siân Eirian, Triawd Pant yr Hwch a'r Baledwr Harri Richards. Er mwyn dathlu deng mlynedd o'r Ŵyl Fai, derbyniodd Paul wahoddiad yn ôl i gyfarwyddo a chreu'r sioe Ail-Godi'r Llen yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli ym mis Tachwedd 2005, oedd yn ddathliad o'r sioeau cynnar.

Cyd-gyfansoddodd ddwy ddrama gerdd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sef Yn y Ffrâm, eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 1998 i gerddoriaeth Einion Dafydd ac Ail Liwio'r Byd ar gyfer eisteddfod Bro Conwy 2000 i gerddoriaeth Gareth Glyn.

Cyfranodd at gyfresi teledu poblogaidd fel Pengelli a Tipyn o Stad. Cyfansoddodd fonologau ar gyfer cystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd yn ogystal â sgriptiau animeiddio i'r gyfres 'Bibi Bêl' i Griffilms. Bu hefyd yn Aelod o Bwyllgor Ymghynghorol Artistig Cwmni Theatr Gwynedd[6] ac yn Aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy.

Y Cymro[golygu | golygu cod]

Ers mis Mawrth 2006, bu'n cyfrannu colofn wythnosol [2] am y theatr i papur newydd Y Cymro. Ymddangosodd y golofn gyntaf yn Y Cymro ar 31 Mawrth 2006 o dan y teitl 'Byd y Dramâu'. Adolygiadau o ddramâu yng Nghymru a thu hwnt yw prif nodwedd y golofn, a derbyniodd ganmoliaeth am ei natur ddi-flewyn ar dafod ac onest. Newidiwyd teitl y golofn i 'Llygad ar y llwyfan' yn ddiweddarach.[7]. Ym mis Gorffennaf 2006, datganodd yn ei golofn bod penodiad Cefin Roberts fel Arweinydd Artistig Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod "yn gamgymeriad mawr" ar ôl gweld cynyrchiadau cynnar y Cwmni.[8]. Parhau i fod yn feirniadol o gynnyrch y cwmni wnaeth Paul ar ôl gweld 'Diweddgan' ym mis Hydref 2006 [9] ac wedyn cynhyrchiad Cefin Roberts o addasiad Siôn Eirian o nofel Islwyn Ffowc Elis, Cysgod y Cryman ym mis Chwefror 2007.[10]. Yn sgil y beirniadu, bu cryn drafod ar raglen wythnosol Gwilym Owen ar BBC Radio Cymru, ble y cyhuddwyd y Cwmni o fod ymhell ar ôl Theatr Genedlaethol Yr Alban.[11]

Defod y Fedal Ddrama 2008

Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy 2008[golygu | golygu cod]

Yn ystod Defod y Fedal Ddrama [3] ar brynhawn Mercher, Eisteddfod yr Urdd, Sir Conwy 2008, galwodd Paul am weld sefydlu cynllun cenedlaethol a fydd yn galluogi enillwyr Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd ddatblygu eu doniau a chyfoethogi byd y ddrama yng Nghymru.

"Mae'n dristwch na chafodd y rhan fwyaf o enillwyr y gorffennol eu meithrin i sgrifennu ar gyfer y llwyfan," meddai Paul, sy'n gyn enillydd ei hun. Dywedodd ei bod yn ofid iddo fod y llwyfan yn colli'r enillwyr hyn wrth iddyn nhw gael eu hudo i fyd brasach teledu. Mae'n ofynnol arnom erbyn hyn i sicrhau yr un abwyd ariannol a chreadigol i gyfoethogi y theatr yn ogystal," meddai.

"Pam na ellir sefydlu cynlluniau hyfforddi blynyddol dan adain dramodwyr a chyfarwyddwyr profiadol a hynny trwy nawdd Urdd Gobaith Cymru a'r Theatr Genedlaethol? Byddai hynny yn gyfle gwych i ddarpar ddramodwyr ddysgu crefft, i dderbyn sylwadau ar eu gwaith ac i gynnal eu hunain am flwyddyn wrth hyfforddi. Ar ddiwedd y cyfnod byddai llyfrgell o ddramau newydd yn flynyddol yn barod i'w llwyfannu a lleisiau ifanc yn cael mynegi eu barn," meddai.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Cymro, 22 Mehefin 2007, t. 6
  2. Sul y Blodau, Cyfres y Llwyfan, Comedi gan Paul Griffiths, Gwasg Carreg Gwalch, Argraffiad Cyntaf Ionawr 1993, Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol 0-86381-248-1
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-06. Cyrchwyd 2008-07-03.
  4. Cyfansoddiadau Llenyddol Buddugol Glyndŵr 1992, Gwasg Dwyfor, Penygroes
  5. Pigion y Dydd, Daily Post, 24 Tachwedd 2001
  6. Y Cymro, 28 Gorffennaf 2006
  7. Y Cymro, 7 Ebrill 2006
  8. Y Cymro, 28 Gorffennaf 2006, t. 6
  9. Y Cymro, 13 Hydref 2006, t. 11
  10. Y Cymro, 9 Chwefror 2007, 'Cynhyrchiad i lenwi theatrau ond nid yw'n ddigon beiddgar a heriol'
  11. Trafodaeth rhwng Gwilym Owen, Paul Griffiths, Carys Wyn Edwards a Jeremy Turner ar Wythnos Gwilym Owen, 14 Mai 2007, BBC Radio Cymru. [1]