Paul Carey Jones

Oddi ar Wicipedia
Paul Carey Jones
Ganwyd1974 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata

Canwr opera bariton yw Paul Carey Jones (ganwyd Caerdydd, Cymru, 1974).

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jones yng Nghaerdydd ac aeth i Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd (ysgol gynradd, oed 4–11) ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (ysgol uwchradd, oed 11–18). Yna fe astudiodd Ffiseg yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, lle derbyniodd wobr Styring Exhibition yn 1993, ond daeth yn fwy ymwybodol fod gweddill ei fywyd am wahanu o Ffiseg. Wedi cwblhau cwrs hyfforddiant athrawon yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, fe ddychwelodd i Ysgol Glantaf i ddysgu Ffiseg am ddwy flynedd, cyn ymddiswyddo yn 1998 er mwyn astudio canu yn Royal Academy of Music ac yna y National Opera Studio yn Llundain, wedi ei gefnogi gan Opera Cenedlaethol Cymru.

Gyrfa operatig[golygu | golygu cod]

Mae Jones wedi ymddangos fel prif artist gwadd nifer o weithiau ar gyfer Scottish Opera a Northern Ireland Opera, yn ogystal ac Opera Cenedlaethol Cymru, yn y Wexford Festival, Buxton Festival, ar gyfer Opera East, Bampton Classical Opera, Diva Opera, a Lyric Opera Dulyn.

Cydweithio gyda Oliver Mears[golygu | golygu cod]

Mae Jones wedi gweithio yn rheolaidd gyda'r cyfarwyddwr Oliver Mears - mae eu cydweithrediadau yn cynnwys Scarpia (Tosca), Macbeth gan Verdi, Father (Hansel and Gretel) a Noye (Noye's Fludde) ar gyfer Northern Ireland Opera, Llefarydd (Y Ffliwt Hud) i Nevill Holt Opera, a Sam (Trouble in Tahiti) a Monsieur Juste (The Three Wishes) i Second Movement.

Gwaith mewn Cerddoriaeth Gyfoes[golygu | golygu cod]

Mae Jones wedi rhoi perfformiadau cyntaf yn fyd-eang o weithiau gan y cyfansoddwyr Stephen McNeff (oratorio Cities of Dreams i destunau Walt Whitman, William Blake a Rudyard Kipling yn Neuadd Brangwyn yn 2007); John Metcalf (rhannau Dancing Williams, Sinbad Sailors, Willy Nilly, Mr Pugh, Mr Pritchard a Mr Floyd in Under Milk Wood: An Opera, addasiad Metcalf o gerdd Dylan Thomas i leisiau); Peter Wiegold (ei opera fer wedi seilio ar y ffilm Brief Encounter yn 2004); Jonathan Owen Clark (ei opera Hidden States yn Newcastle yn 2004); Richard Elfyn Jones (ei oratorio In David's Land yn St David's Cathedral yn 2006, a'i gasgliad o ganeuon Four Poems of Gerard Manley Hopkins yn 2008 - gweler isod); Jonathan Dove (ei opera i deledu, Man on the Moon, yn 2006); Keith Burstein (yn chwarae rhan Mohammed yn yr opera Manifest Destiny yn Nghwyl Ffrinj Caeredin 2005 ); David Power (ei osodiad Forever and Other Songs); Emily Hall (pedwar gosodiad o eiriau gan Toby Litt yn Ngŵyl Grimsby St Hugh's 2010); Sadie Harrison (Heartoutbursts); a Timothy Raymond (From Dark to Dark). Ar gyfer Northern Ireland Opera yn 2012 fe greodd rannau y Plismon yn Jackie's Taxi, gan Ed Bennett, y Tad yn The Girl Who Knew She Could Fly gan Christopher Norb a'r Tad yn May Contain Flash Photography gan Brian Irvine.

Mae ei waith yn opera gyfoes yn cynnwys y rhan o Blazes yng The Lighthouse gan Peter Maxwell Davies yn Cantiere Internazionale d'Arte di Montepulciano, Sam yn Trouble in Tahiti gan Leonard Bernstein ar gyfer Second Movement, a Andy Warhol ym mherfformiad cyntaf yn yr Eidal o Jackie O gan Michael Daugherty yn Teatro Rossini, Lugo a Teatro Comunale di Bologna. Mae wedi dirprwyo ar gyfer rhannau Richard Nixon yn Nixon in China gan John Adams a Jaufre Rudel ynL'Amour de Loin gan Kaija Saariaho ar gyfer English National Opera.

Cydweithio gyda Llŷr Williams[golygu | golygu cod]

Fel aelod o gynllun Yehudi Menuhin, Live Music Now! fe berfformiodd mewn dros 200 cyngerdd, yn bennaf mewn partneriaeth a'r pianydd Llŷr Williams, ac mae'n parhau i gydweithio gyda fe; fe ryddhawyd eu halbwm cyntaf o ganeuon clasurol Enaid - Songs of the Soul, yn Nhachwedd 2007 ar label Sain.

Yn Nhachwedd 2008 fe berfformiwyd casgliad o ganeuon am y tro cyntaf, Four Poems of Gerard Manley Hopkins, wedi ei ysgrifennu yn arbennig iddyn nhw gan y cyfansoddwr Richard Elfyn Jones, mewn datganiad ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn Awst 2011 fe wnaeth y ddau ymddangos mewn datganiad yng Ngŵyl Machynlleth, gan roi eu perfformiad cyntaf o Winterreise gan Schubert.

Recordiau[golygu | golygu cod]

Cafodd trac o Enaid - Songs of the Soul ei gynnwys ar albwm casgliad Sain yn 2009 The Welsh Gold Collection. Mae Jones yn canu rhannu Squire Allworthy a Dobbin ar recordiad Naxos o gyfansoddiad Edward German Tom Jones, ryddhawyd yn Awst 2009.

Roedd ei ail albwm unigol Songs Now, yn cynnwys caneuon gan gyfansoddwyr cyfoes Prydeinig, a fe'i rhyddhawyd yn Awst 2012 gan Meridian Records, gyda'r pianydd Ian Ryan.

Ar DVD, mae Jones yn ymddangos fel Andy Warhol ar recordiad Dynamic yn 2009 o Jackie O, gan Michael Daugherty ac mewn rhannau amrywiol yn ffilm y BBC o 2005 The Little Prince gan Rachel Portman.

Defnyddiwyd recordiad Jones o aria Puccini Questo Amor ar drac sain y ffilm arobryn o 2010 Bodhisattva gan San Banarje.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • The Queen's College Newsletter, Hydref/Gaeaf 2004
  • The Western Mail, 7 Ionawr 2006
  • Opera News, Chwefror 2007
  • Scottish Opera Brio magazine, Issue 13

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]