Paul-Yves Pezron

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Paul-Yves Pezron yn offeiriad Llydewig sy'n fwyaf adnabyddus am lyfr a gyhoeddodd yn 1703, Antiquité de la nation et de la langue des Celtes, autrement appelée Gaulois. Mae'n debyg mai ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r gair "Celt" yn ei ystyr fodern, sef trigolion y gwledydd a ystyrir yn awr fel "gwledydd Celtaidd".

Yn y llyfr hwn, dangosodd Pezron fod y Llydawyr a'r Cymry yn perthyn i'w gilydd, a haerodd eu bod yn ddisgynyddion y Celtiaid a ddisgrifid gan awduron clasurol. Cafodd ei lyfr ddylanwad mawr, a chyfieithwyd ef i nifer o ieithoedd a'i ail-argraffu nifer o weithiau hyd ddechrau'r 19eg ganrif.

Cafwyd cyfieithiad Saesneg yn 1706 fel Antiquities of Nations. Dyma un o brif ffynonellau Theophilus Evans, awdur Drych y Prif Oesoedd, sy'n cyfeirio sawl gwaith at Pezron gydag edmygedd mawr. Yn ôl damcaniaeth Pezron, y Gymraeg oedd iaith Gomer fab Jaffeth ac roedd y Cymry a'r Llydawyr yn ddisgynyddion iddo. Honodd hefyd fod y Groegiaid gynt yn adnabod y "Gomeriaid" fel y Titaniaid. Llyncodd Theophilus Evans hyn i gyd, ond aeth ymhellach, gan honni fod yr iaith Gymraeg yn un o "ieithoedd cysefin" y byd, gyda Hebraeg, a'i bod yn tarddu o gyfnod cymysgu'r ieithoedd ar ôl cwymp Tŵr Babel.


Flag of Brittany (Gwenn ha du).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.