Patmos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Porthladd Skala ar ynys Patmos

Patmos (Groeg: Πάτμος; Eidaleg: Patmo) yw'r fwyaf gogleddol o ynysoedd y Dodecanese, Gwlad Groeg. Mae'n gorwedd ym Môr Aegea oddi ar arfordir de-orllewin Twrci. Ynys fechan ydyw (15 milltir sgwâr) ond mae'r baeau niferus a'i siâp afreolaidd yn ffurfio arfordir hir. Mae'r pridd yn folcanig. Fe'i rhennir yn dair rhan gyda dau isthmws o dir yn eu cysylltu yn y canol. Ar un o'r gyddfau o dir hyn saif y brif ddinas a phorthladd Skala, safle dinas hynafol. I'r de mae tref Patmos a gysylltir â Sant Ioan, awdur traddodiadol Llyfr y Datguddiad yn y Beibl.

Cyfeirir at Batmos yng ngwaith Thucydides, Strabo a Pliny. Doriaid oedd y trigolion cynharaf ac yna daeth Ioniaid i ymsefydlu yno. Arferai'r Rhufeiniaid alltudio carcharorion gwleidyddol iddi. Un o'r rhain oedd Sant Ioan, a alltudiwyd i'r ynys yn 95 yn ystod teyrnasiad Domitian. Am ganrifoedd bu'n ganolfan i forladron. Yn 1088 sefydlwyd mynachlog er anrhydedd Sant Ioan yn nhref Patmos; mae'n un o'r prif atyniadau twristaidd heddiw. Yn 1207 cipiwyd yr ynys o ddwylo'r Ymerodraeth Fysantaidd gan Fenis. Daeth yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid yn 1537. Fel yn achos gweddill y Dodecanese, ni ddaeth yn rhan o'r Wlad Groeg fodern tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Ffynhonnell[golygu]

  • Stuart A. Rossiter (gol.), Greece (Blue Guides, Llundain)