Pascal (uned)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pascal)
Pascal
Enghraifft o'r canlynolSystem Ryngwladol o Unedau, uned o bwysau, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned SI gydlynol, uned sy'n deillio o UCUM Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mesurydd gwasgedd wedi ei galibreiddio i ddarllen psi (mewn coch) a kPa (du)

Mae pascal (symbol: Pa) yn uned SI rhyngwladol a ddefnyddir i fesur gwasgedd (Saesneg:pressure). Hynny yw: N/cm × 102. Ceir gwasgedd o UN pascal gan rym o un newton yn gweithredu ar ongl sgwâr i arwynebedd o un metr sgwâr.

Gan mai uned i fesur gwasgedd ydy pascal, mae'n rhaid felly deall beth ydy gwasgedd. Gellir dweud mai gwasgedd ydy grym (mewn newtonau) wedi ei rannu gyda'r arwynebedd (mewn cm × 102) neu m × 102). Hynny yw: P = F/A.

Fe ddown ar draws y mesur hwn o ddydd i ddydd mewn adroddiadau tywydd, ac mae llawer o farometrau'n mesur gwasgedd mewn hectopascalau (1 hPa ≡ 100 Pa) neu kilopascalau (1 kPa ≡ 1000 Pa).[1] Fe'i defnyddir hefyd ar labeli teiar beics. Mae un hectopascal yn hafal i un milibar.

Cafodd yr uned ei henwi i gofio am waith y mathemategydd Ffrengig Blaise Pascal.

Diffiniad[golygu | golygu cod]

1 pascal (Pa) = 1 uned newton |N/m2 = 1 kg/(m·s2)[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "U.S. "Federal Meteorological Handbook"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1999-04-20. Cyrchwyd 2010-07-30.
  2. Table 3 (Section 2.2.2) Archifwyd 2007-06-18 yn y Peiriant Wayback., SI Brochure, "International Bureau of Weights and Measures"
Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.