Parti'r Efail

Oddi ar Wicipedia

Criw o feibion sy'n ymarfer, dan arweiniad Menna Thomas, yn Efail Isaf ger Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, yw Parti'r Efail.

Maen nhw wedi ennill saith gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanelli (2000), Maldwyn a'r Gororau (2003), Casnewydd (2004), Bala (2009), Glyn Ebwy (2010), Wrecsam (2011) a'r Fenni (2016) a phum gwaith yng Ngŵyl Gerdd Dant Cymru - Yr Wyddgrug (1998), Llandudno (2004), Abergwaun (2005), Casnewydd (2009) a Bangor (2010). Maen nhw hefyd wedi ennill yn yr Ŵyl Ban Geltaidd a chanu yn Llydaw a De Ffrainc – ac yn ymddangos yn rheolaidd ar hyd a lled De Cymru, gan gynnwys cynadleddau rhynglwadol sy'n ymweld â'r brifddinas. Maen nhw hefyd wedi cyflwyno rhaglen o ganeuon Plygain yn hen Eglwys Llandeilo Talybont, Amgueddfa Werin Sain Ffagan ar sawl achlysur ynghŷd â chanu'n flynyddol ym mhlygeiniau eglwysi a chapeli'r ardal, ym Mhentyrch, Gwaelod-y-Garth a Chaerffili. Mae eu rhaglen gyngerdd yn gymysgedd o'r ysgafn a'r safonol - y gwamal a'r swmpus - gwerin, cyfoes, sioeau cerdd a cherdd dant. Maen nhw i'w clywed hefyd ar rai o ddisgiau goreuon gwerin a cherdd dant Cwmni Sain. Yn 2011 cyhoeddwyd eu CD cyntaf,"Ambell i Gân" , Recordiau Parti'r Efail CD001, gyda'r traciau i gyd wedi eu recordio yn stiwdio Acapela, Pentyrch. Ar y CD honno mae gosodiad Menna Thomas o eiriau Rhys Dafis, "Y Parti Cerdd Dant", cyflwyniad sydd bellach wedi tyfu'n 'arwydd-dôn' y parti, lle mae'n nhw'n cymryd golwg braidd yn wamal o'u hunain fel cerdd dantwyr. Ffurfiwyd y Parti ar gyfer yr Ŵyl Cerdd Dant yn Mhen-y-bont ar Ogwr (1995) ac maen nhw wedi cystadlu'n ddi-fwlch ymhob Gŵyl a Phrifwyl ers hynny, naill ai ar y gân werin neu ar y cerdd dant. Un o'r perfformiadau roddodd fwyaf o fwynhad i Barti'r Efail oedd hwnnw yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym mhresenoldeb y diweddar Ddr. Meredydd Evans, lle roedd y Parti wedi paratoi cyflwyniad 'tra symudol' o un o ganeuon Merêd, 'Band Pres Cwmrhydycorcyn'.