Parth (bioleg)
Oddi ar Wicipedia
Un o'r rhengoedd uchaf yn nosbarthiad gwyddonol organebau byw, uwchlaw teyrnas, yw parth. Yn ôl y system a gyflwynwyd gan Carl Woese ym 1990, rhennir organebau yn dri pharth: Bacteria, Archaea ac Eukaryota.
Cyfeiriadau [golygu]
- Woese C, Kandler O, Wheelis M (1990). "Towards a natural system of organisms: proposal for the domains Archaea, Bacteria, and Eucarya." Proc Natl Acad Sci USA 87 (12): 4576–9.