Parry's Corner
Oddi ar Wicipedia
Ardal busnes yw Parry's Corner yn ninas Chennai, talaith Tamil Nadu, India. Cyfeirir ato yn aml fel "Parry's" ar lafar. Fe'i lleolir ger Chennai Port, ar gornel North Beach Road a NSC Bose Road.
Fe'i enwir ar ôl Thomas Parry, marsiandïwr Cymreig o'r Trallwng a sefydlodd yr EID Parry Company yn 1787. Hyd heddiw mae pencadlys corfforaethol cwmni EID Parry yn sefyll ar y gornel. Mae Parry's Corner yn ganolfan bwysig i fancio marsiandïol a busnes yn Chennai a'r cylch. Yn ogystal, mae'n echel o bwys yn rhwydwaith bysus y ddinas. O ganlyniad, mae'n lle prysur iawn lle ceir traffig trwm a nifer o stondinau yn gwerthu bwyd a nwyddau amrywiol.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) S. Muthia: "The house that Parry built", erthygl yn The Hindu, 11 Rhagfyr 2002.
- TamilNow.com: Lluniau o Parry's Corner.