Parciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae gan y Deyrnas Unedig 14 parc cenedlaethol, naw yn Lloegr, tri yng Nghymru a dau yn yr Alban. Mae parciau cenedlaethol yn ardaloedd rheoledig o dirwedd eithriadaol lle y cyfyngir ar sefydliad cyfanheddau a gweithgareddau masnachol. Sefydlwyd y tri pharc cyntaf yn Lloegr ym 1951. Cynigir 15fed parc cenedlaethol yn Rhosydd y De (South Downs).

Parciau Cenedlaethol yr Alban[golygu]

Parc Cenedlaethol Sefydlwyd Arwynebedd (km²)
Cairngorms 2003 3,800
Loch Lomond a'r Trossachs 2002 1,865
Cyfanswm 5,665

Mae'r ddau barc cenedlaethol hwn yn gorchuddio tua 7% yr arwynebedd tirol yn yr Alban.

Parciau Cenedlaethol Cymru[golygu]

Allwedd Parc Cenedlaethol Sefydlwyd Arwynebedd (km²)
1 Eryri 1951 2,142
2 Arfordir Penfro 1952 620
3 Bannau Brycheiniog 1957 1,351
  Cyfanswm   4,113
Mae'r tri pharc cenedlaethol yng Nghymru yn gorchuddio tuag 20% o arwynebedd tirol y wlad.

Parciau Cenedlaethol Gogledd Iwerddon[golygu]

Ni ddynodwyd parciau cenedlaethaol yng Ngogledd Iwerddon, ond mae symudiadau i sefydlu parc cenedlaethol Gogledd Iwerddon cyntaf yn y Mynyddoedd Mourne.

Parciau Cenedlaethol Lloegr[golygu]

Allwedd Parc Cenedlaethol Sefydlwyd Arwynebedd (km²)
1 Ardal y Copaon
(Saesneg: Peak District)
1951 1,438
2 Ardal y Llynnoedd
(Saesneg: Lake District)
1951 2,292
3 Dartmoor 1951 956
4 Gweunydd Gogledd Swydd Efrog
(Saesneg: North York Moors)
1952 1,436
7 Dyffrynnoedd Swydd Efrog
(Saesneg: Yorkshire Dales)
1954 1,769
8 Exmoor 1954 693
9 Northumberland 1956 1,049
10 Llynnoedd Norfolk
(Saesneg: Norfolk Broads)
1988 303
11 Fforest Newydd
(Saesneg: New Forest)
2005 580
  Cyfanswm   10,516
Dynodir deuddeg o ardaloedd yng Nghymru a Lloegr yn barciau cenedlaethol, ac mae 13eg parc ('Rhosydd y De') yn y broses o gael ei ddynodi felly.
Mae'r naw parc cenedlaethol yn Lloegr yn gorchuddio tua 7% o arwynebedd tir y wlad honno.

Gweler hefyd[golygu]

Dolen allanol[golygu]