Parc Cenedlaethol Los Glaciares

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Upsala, Santa Cruz

Parc cenedlaethol yn nhalaith Santa Cruz yn rhan yr Ariannin o Batagonia yw Parc Cenedlaethol Los Glaciares.

Dynodwyd y parc, sydd ag arwynebedd o 7.240 km², yn Barc Cenedlaethol yn 1937. Ef yw'r mwyaf yn yr Ariannin. Daw'r enw "Los Glaciares" o'r rhewlifoedd yn y parc, rhai ohonynt y rhewlifoedd mwyaf i'r de o'r cyhydedd tu allan i'r Antarctig. Yma hefyd ceir Llyn Argentino, sydd a nifer o rewlifoedd yn llifo iddo. Y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw rhewlif Perito Moreno. Ceir amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn cynnwys y condor, puma, guanaco ac eraill.

Dynodwyd y parc yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.