Parc Cenedlaethol Llyn Turkana
Oddi ar Wicipedia
Parc cenedlaethol yng ngogledd Kenya yw Parc Cenedlaethol Llyn Turkana. Mae'n cynnwys tri parc cenedlaethol unigol, Parc Cenedlaethol Sibiloi ar lan Llyn Turkana a dwy ynys yn y llyn ei hun.
Dynodwyd Parc Cenedlaethol Llyn Turkana yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1997. Ymhlith y rhesymau dros ei ddynodi, roedd ei bwysigrwydd i adar mudol, a'i bwysigrwydd fel magwrfa i Grocodil y Nîl, yr Afonfarch a nifer o rywogaethau o nadroedd. Mae hefyd yn nodedig am fod llawer o ffosilau hominid cynnar wedi eu darganfod yma.