Parc Bletchley
Ystad yn nhref Bletchley yn Swydd Buckingham, Lloegr ydy Bletchley Park, a adwaenir hefyd fel Station X. Ers 1967, mae Bletchley wedi bod yn rhan o Milton Keynes.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd prif sefydliad dadgodio'r Deyrnas Unedig wedi'i lleoli ym Mharc Bletchley. Dadgodiwyd codau a seiffrau nifer o wledydd yr Axis, ac yn fwyaf arwyddocaol peiriannau Lorenz ac Enigma'r Almaenwyr.
Ystyrir bod y wybodaeth gyfrinachol a ddarganfuwyd ym Mharc Bletchley, o dan yr enw côd "Ultra", wedi darparu cymorth amhrisiadwy i ymdrechion rhyfel y Cyngrheiriaid gan fyrhau hyd y rhyfel. Serch hynny, mae union ddylanwad Ultra yn parhau i gael ei drafod a'i astudio.
Bellach mae Parc Bletchley yn amgueddfa o dan ofal Ymddiriedolaeth Parc Bletchley. Mae ar agor i'r cyhoedd. Gellir defnyddio'r prif dŷ am weithgareddau a seremonïau. Defnyddia'r Ymddiriedolaeth peth o'r arian a godir drwy logi'r cyfleusterau er mwyn cynnal a chadw'r amgueddfa.
Dolenni allanol [golygu]
- Ymddiriedolaeth Parc Bletchley
- Bletchley Park — Taith Rhithiol — gan Tony Sale
- The National Museum of Computing (wedi'i leoli ym Mharc Bletchley)
- "New hope of saving Bletchley Park for nation" (Daily Telegraph 3 Mawrth 1997)
- Bletchley Park: It's No Secret, Just an Enigma The Telegraph, 29 Awst 2009]