Papur Pawb

Oddi ar Wicipedia
Papur Pawb
Enghraifft o'r canlynolpapur wythnosol Edit this on Wikidata
Rhan oPapurau Newydd Cymreig Ar-lein Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi4 Chwefror 1893 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiCaernarfon Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Clawr o 1909
Ar gyfer papur bro ardal Tal-y-bont, gweler Papur Pawb (Tal-y-bont).

Papur newydd wythnosol poblogaidd oedd Papur Pawb a ddaeth allan rhwng 1893 a 1917 ac am gyfnod arall o 1922 hyd 1955.

Ei olygyddion yn eu tro oedd Daniel Rees, Picton Davies ac Evan Abbott.

Roedd yn cynnwys manion digri, straeon byrion a darnau o nofelau. Cyfranodd yr arlunydd J.R. Lloyd Hughes lawer o'r cartŵnau.

Ysgrifennai rhai o lenorion mwyaf poblogaidd y cyfnod iddo, yn cynnwys T. Gwynn Jones a Dic Tryfan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato