Panasen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Panasen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Patinaca
Rhywogaeth: P sativa
Enw deuenwol
Pastinaca sativa
L.

Llysieuyn o deulu'r garotsen neu'r foronen yw panasen (Lladin: Pastinaca sativa) lluosog "Pannas". Yng Nghymru, ceir cofnod ohoni'n dyddio yn ôl i gyfnod y Rhufeiniad. Yn ôl y gwyddonwyr mae hi'n perthyn hefyd i deulu'r helogen (neu seleri), persli a ffenel. Caiff ei thyfu er mwyn ei gwreiddiau gwyn, hir, sy'n fwytadwy.[1]

Cyn dyfodiad y fetysen siwgr defnyddwyd hi i wneud siwgr ac mae rhai'n honni bod gwin panasen yn debyg i Madeira. Fe'u bwyteir gan amlaf wedi'i rhostio, neu fel greision tenau, neu'n stwns. Mae'r dail yn cynnwys cemegyn ffotosensitif. Yn aml iawn drysir pobl o ddwyrain Ewrop lle bwyteir gwreiddyn persli, sy'n debyg iawn o ran ei golwg, ond nid o ran ei blas. Bwydir pannas i anifeiliad yn yr Eidal, Ffrainc a gwledydd eraill. Yr enw llydaweg arni yw Panazenn, (Llydaweg Canol) panesenn; lluosog Panez.

Geirdarddiad[golygu]

Benthyciad o'r Ffrangeg "panais" yw "pannas". Enwau eraill arni yw Llysiau Gwyddelig neu Foron gwynion. Cofnodir y gair "Pannas" am y tro cyntaf yn Gymraeg yn 1672 (TW Penniarth 228) yng Ngeiriadur Syr Thomas Wiliems. Yn ne-ddwyrain Morgannwg defnyddiwyd y gair "Pannws" (T. Jones; Alm 51; 1704). Defnyddid y gair, tan yn ddiweddar, hefyd i olygu 'cweir' neu 'gurfa'.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Geiriadur y Brifysgol; Rhan III; tudalen 2680.