Trychineb Lockerbie

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pan Am Flight 103)
Trychineb Lockerbie
Rhan o drwyn a bwrdd hedfan yr awyren yn Lockerbie.
Enghraifft o'r canlynoldamwain awyrennu, ymosodiad terfysgol, airliner bombing Edit this on Wikidata
Dyddiad21 Rhagfyr 1988 Edit this on Wikidata
Lladdwyd243, 16, 11 Edit this on Wikidata
LleoliadLockerbie Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrPan Am Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymosodiad terfysgol ar Ehediad Pan Am 103 ar 21 Rhagfyr 1988 oedd Trychineb Lockerbie. Bu farw 270 o bobl i gyd. Ffrwydrodd bom ar yr awyren wrth iddi deithio o Frankfurt am Main i Detroit drwy Lundain a Dinas Efrog Newydd. Disgynodd darnau'r awyren ar dref Lockerbie, yn ne'r Alban, gan ladd yr holl griw a'r teithwyr ac 11 o bobl ar y ddaear.

Rhoddwyd dau Libiad ar brawf gan dri barnwr Albanaidd yn yr Iseldiroedd. Yn 2001 cafwyd Abdelbaset al-Megrahi yn euog o 270 cyhuddiad o lofruddiaeth a chafodd ei dedfrydu i garchar am oes. Ni chafwyd Lamin Khalifah Fhimah yn euog o'r un cyhuddiad. Cafodd al-Megrahi ei ryddhau o'r carchar yn 2009 am resymau tosturiol, a bu farw o ganser y prostad yn 2012.