Pamela Stephenson
Oddi ar Wicipedia
Seicolegydd clinigol ac ysgrifennwraig o Seland Newydd sy'n fwy adnabyddus am ei gwaith fel actores a digrifwraig yn ystod y 1980au ydy Pamela Helen Stephenson Connolly (ganed 4 Rhagfyr 1949). Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gan gynnwys bywgraffiad ei gŵr Billy Connolly. Cyflwyna sioe gyfweld yn seiliedig ar seicoleg o'r enw Shrink Rap ar deledu'r Deyrnas Unedig.