Palestrina
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am y dref yw hon. Am y cyfansoddwr gweler Giovanni Pierluigi da Palestrina.
Tref fechan yn Lazio, ger Rhufain, a safle'r dref Rufeinig hynafol Praeneste yw Palestrina. Mae ganddi boblogaeth o tua 18,000.
Ceir tystiolaeth fod pobl wedi byw ar sfale'r dref ers tua 700 CC. Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig roedd Teml Fortuna Primigenia yn denu miloedd o bererinion.
Ganed y cyfansoddwr Giovanni Pierluigi da Palestrina yno tua 1525.