Paleosen

Oddi ar Wicipedia
System Cyfres Oes Oes (Ma)
Cwaternaidd Pleistosenaidd Gelasaidd ifancach
Neogenaidd Plïosenaidd Piacensaidd 2.588–3.600
Sancleaidd 3.600–5.332
Mïosenaidd Mesinaidd 5.332–7.246
Tortonaidd 7.246–11.608
Serravallaidd 11.608–13.65
Langhianaidd 13.65–15.97
Bwrdigalaidd 15.97–20.43
Acwitanaidd 20.43–23.03
Paleogenaidd Oligosenaidd Cataidd hynach
Israniadau'r Cyfnod Neogen, yn ôl IUGS, fel a gaed yng Ngorffennaf 2009.
Gofal: ceir cyfnod arall gydag enw tebyg: Paleogen.

Cyfres neu Epoc ddaearegol ydy'r Paleosen (symbol Pε)[1] gyda'i ystyr llythrennol yn golygu "y diweddar cynnar". Yr ansoddair yw Paleosenaidd (Saesneg: Paleocene neu Palaeocene). Parhaodd yr epoc hwn rhwng tua 65.5±0.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd at tua 55.8±0.2 Ma. Dyma epoc cyntaf y gyfres Paleogen yn yr era Cenosoig. Oed y creigiau sy'n pennu dyddiadau'r gyfres hon ac maent wedi'u diffinio'n eitha pendant.

Titanoid

Mae'r epoc hwn yn dilyn y digwyddiad enfawr hwnnw pan ddiflannod y deinosoriaid a llawer o anifeiliaid a phlanhigion eraill, a'r epoc blaenorol, sef y Cretasaidd. Gadawodd hyn wacter ecolegol enfawr. Ystyr "paleo" yn y Groeg ydy "hynaf" (παλαιός a "newydd" (καινός yw ystyr kainos a gwelwyd ffawna newydd yn ystod yr epoc yma, cyn gweld esblygu mathau newydd o anifeiliaid e.e. y mamal yn yr epoc sy'n dilyn (sef yr Eosen).

Rhennir y Paleosen yn dair rhan geolegol, o'r ieuenga i'r hynaf:

Thanetaidd (58.7±0.255.8±0.2 Ma)
Selandaidd (61.7±0.258.7±0.2 Ma)
Daniaidd (65.5±0.361.7±0.2 Ma)

Ar ben hyn, mae'r Paleosen ei hun yn cael ei rannu'n 6 ardal mamalaidd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Geologic Age Symbol Font (StratagemAge)" (PDF). USGS. 99-430. Cyrchwyd 2011-06-22.