Pafiliwn Brighton

Oddi ar Wicipedia
Pafiliwn Brighton
Mathpalas, amgueddfa tŷ hanesyddol, tŷ bonedd Seisnig, local authority museum Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1787 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRoyal Pavilion & Museums Trust Edit this on Wikidata
LleoliadBrighton Edit this on Wikidata
SirBrighton a Hove Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd2.46 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.822364°N 0.137717°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ3127304188 Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolIndo-Saracenic architecture Edit this on Wikidata
PerchnogaethSiôr IV, brenin y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, parc rhestredig neu ardd restredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Pafiliwn Brighton neu'r Pafiliwn Brenhinol yn gyn gartref brenhinol, yn Brighton, Dwyrain Sussex. Adeiladwyd ar dechrau'r 19g fel encil glanmôr ar gyfer y Tywysog Rhaglyw. Adeiladwyd yn y steil Indo-Saracenic a oedd yn gyffredin yn India drwy rhan fwyaf y 19g.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ymwelodd y Tywysog Rhaglyw, a ddaeth yn Siôr IV yn ddiweddarach, â Brighton gyntaf yn 1783, ar ôl i'w feddyg argymell y buasai dŵr môr yn gwneud lles i'w gout. Yn 1786 rhentiodd ffermdy yn ardal Old Steine o Frighton. Yn bell o Lys Brenhinol Llundain, roedd y Pafiliwn hefyd yn lle synhwyrol i'r Tywysog fwynhau ei garwriaeth gyda'i gymar hir-oes, Maria Anne Fitzherbert. Roedd y Tywysog eisiau ei phriodi, ac efallai y gwnaeth hyn yn gyfrinachol, ond roedd yn anghyfreithlon oherwydd ei chrefydd Catholig.

Yr Ystafell Wledda ysblenydd yn y Pafilwn Brenhinol, o Views of the Royal Pavilion (1826) gan John Nash.

Cyflogwyd y pensaer, Henry Holland yn fuan i ehangu'r Pafiliwn. Prynodd y Tywysog dir o amgylch y Pafiliwn hefyd, ac yno adeilaodd ysgol marchogaeth crand mewn steil Indiaidd yn 1803 i gynlluniau gan William Porden.

Rhwng 1815 ac 1822, ailddyluniodd y pensaer John Nash y palas; gwaith Nash sydd yno i'w weld heddw. Mae'r palas yn hynod o drawiadol yng nghanol Brighton, gan fod ganddi olwg Indiaidd ar y tu allan. Er, mae'r dylunio ffansïol tu mewn gan gwmni Frederick Crace a Robert Jones, wedi ei ddylanwadu'n drwn gan ffasiwn Tseiniaidd ac Indiaidd gyda elfennau o bensaerniaeth Moghul ac Islamaidd. Roedd yn esiampl adderchog o'r egsotigaeth a oedd yn wahanol i'r blas cyffredin clasurol y Steil Rhaglyw.

Prynu gan Brighton[golygu | golygu cod]

Wedi marwolaeth Siôr IV yn 1830, arhosodd ei olynydd William IV yn y pafilwn hefyd yn ystod ei ymweliadau â Brighton. Er, ar ôl ymweliad olaf y Frenhines Fictoria i Frighton yn 1845, roedd y llywodraeth yn bwriadu gwerthu'r adeilad a'r tir ond deisebodd y Brighton Commissioners a'r Brighton Vestry yn llwyddiannus i gael y llywodraeth i'w werthu i'r dref am £53,000 yn 1849 dan y Brighton Improvement (Purchase of the Royal Pavilion and Grounds) Act 1850.[1]

Defnydd Diweddarach[golygu | golygu cod]

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf defnyddiwyd y Pafiliwn fel ysbyty ar gyfer gwasanaethwyr Indiaidd a Gorllewin Indiaidd. Amlosgwyd milwyr marw Indiaidd Sikh a Hindw ar y Twyni Deheuol i'r gogledd o Brighton, ble adeiladwyd cofeb tebyg i Bafiliwn.[2]

Mae'r Pafilwn yn agor i ymwelwyr a hefyd ar gael ar gyfer pwrpasau addysgu, gwledda a phriodasau. Mae'r gost mynedfa wedi ei lleihau ar gyfer trigolion lleol yn ystod y gaeaf.

Dylanwadau Diwyllianol[golygu | golygu cod]

Yn Blackadder the Third, mae'r prif gymeriad yn cynnig i'r Tywysog Rhaglyw y dylai "take out the drawings for that beach hut at Brighton" [3]

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]