Pablo Escobar
Oddi ar Wicipedia
Troseddwr Colombiaidd oedd Pablo Emilio Escobar Gaviria, a elwir hefyd yn El Patrón neu El Doctor (1 Rhagfyr, 1949 – 2 Rhagfyr, 1993). Ef oedd prif ffigur Cartel Medellín ac yr oedd yn goruchwylio rhwydwaith troseddol oedd yn canolbwyntio ar fasnachu cocên ond hefyd yn ymwneud â llwgr-fasnachu, prosesu arian anghyfreithlon, a llofruddiaeth.