Pab a sant oedd y Pab Linws neu Linus. Cafodd ei eni yn ardal Toscana yn yr Eidal lle daeth yn Gristion. Olynodd Pedr Sant fel arweinydd (pab) y gymuned Gristnogol gynnar ar ôl marwolaeth Pedr yn 67. Bu farw yn 79 yng nghyfnod yr Ymerawdr Titus.