Pab Grigor I
| Grigor I | |
|---|---|
| Dyrchafwyd yn Bab | 3 Medi, 590 |
| Diwedd y Babyddiaeth | 12 Mawrth, 604 |
| Rhagflaenydd | Pab Pelagiws II |
| Olynydd | Pab Sabinianws |
| Ganed | c. 540 Rhufain |
| Bu Farw | 12 Mawrth, 604 Rhufain |
Pab Grigor I, a elwir hefyd yn Grigor Fawr neu Gregor(i) Fawr (c. 540 - 12 Mawrth, 604), oedd Pab Rhufain o 590 hyd ei farwolaeth. Mae'r eglwys yn ei gyfrif yn sant a Thad Eglwysig; ei wylmabsant yw 12 Mawrth. Cafodd ei eni yn Rhufain.
Yn ôl traddodiad, gwelodd gaethweision ifainc o Eingl-Sacsoniaid mewn marchnad caethweision yn Rhufain a phenderfynodd anfon cenhadwr i Brydain i droi'r Eingl-Sacsoniaid yn Gristnogion. Y gŵr a ddewisodd oedd Awstin, a fyddai'n archesgob cyntaf Caergaint yn ddiweddarach.
Roedd Grigor yn ddyn caredig iawn a weithiai i wella cyflwr y tlodion. Yn ogystal gwnaeth lawer i ddiwygio trefn yr eglwys. Roedd hefyd yn awdur yn yr iaith Ladin a ysgrifennodd homilïau ar Eseciel a'r Efengylau, llyfr ar reolau'r eglwys (Cura Pastoralis) a'r gweithiau ar gyfer gwasnanaethau eglwysig y Sacramentarium a'r Antiphonarium.
Yr enw cyffredin ar y Pab Grigor yng Nghymru'r Oesoedd Canol oedd Geirioel. Dyma gyfeiriad ato mewn awdl gan Iolo Goch i Dafydd ap Bleddyn, Esgob Llanelwy:
- Da fu heb gelu Coel Godebawg,
- Da Eirioel enau, eiriau oriawg,
- Ac ys gwell gâr pell, gŵr pwyllawg — balchryw,
- Ni bu ei gyfryw, llyw galluawg;
- Os rhaid mynegi pwy rhi yrhawg,
- Dafydd ap Bleddyn yw'r dyn doniawg.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), cerdd XVIII.12-17.
| Rhagflaenydd: Pab Pelagiws II |
Pab 3 Medi 590 – 12 Mawrth 604 |
Olynydd: Pab Sabinianws |