Pêl fas Cymreig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Does neb a wyr pryd dechreuwyd chwarae pêl fas Cymreig (neu bêl fas Prydeinig) i sicrwydd gan iddo ddatblygu o gyfuniad o gemau bat a phêl ers yr Oesoedd Canol. Serch hynny, gellir dyddio sefydlu pêl fas Cymreig ym 1892 pan cytunodd cyrff llywodraethol y gêm yng Nghymru ac yn Lloegr newid enw'r sport o rownderi i bêl fas.

Chwaraeir y gêm bellach mewn tri prif drefnlan - yn wir, dydy'r gêm braidd wedi symud o'r dinasoedd diwydiannol morwrol ers dros canrif. Y dinasoedd Cymreig lle chwaraeir y gêm bron yn escliwsif yw Caerdydd a Chasnewydd. Cyfyngir y gêm yn llwyr i Lerpwl yn Lloegr. Serch hynny, ceir gên ryngwladol flynyddol rhwng Cymru a Lloegr. Mae nifer o'r timau yng Nghymru wedi ei lleoli a'i seilio o fewn tîm rygbi lleol, gyda'r gêm yn cynnig ymarfer corff, hwyl ac adloniant adeg yr Haf i aelodau'r clwb rygbi. Efallai fod y strwythur ehangach yma yn un rheswm dros llwyddiant cymharol y gêm yng Nghymru o'i chymharu â Lloegr.

Mae'r gêm wedi crebachu mewn poblogrwydd yn Lerpwl gyda cwta pedair tîm yn ei chwarae, tra fod y sefyllfa'n iachach yng Nghymru ac hyd yn oed tŵf mewn pêl fas merched. Gobeithir cael hwb pellach i'r gêm yng Nghymru gyda chefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol - bu'r cyn Aelod Cynulliad, John Thomas (Plaid Cymru) yn gefnogol iawn i'r gamp.

Gwahaniaethau rhwng y gêm ym Mhrydain ac America[golygu]

Mae'r gamp yn gwahaniaethu mewn nifer o ffyrdd o'r gêm bêl fas mwy adnabyddus.

  • Danfon y bêl - teflir y bêl o dan yr ysgwydd (under arm) - 'bowlio' fel y gelwir hi mewn criced.
  • Nifer y Chwaraewyr - ceir 11 chwraewr mewn tîm a ni chaniateir eilyddio.
  • Nifer y Pelawdau - caiff pob tîm 2 belawd. Gorffenir pelawd pan fydd pob un o'r 11 chwarewr unai wedi eu dal allan neu wedi eu hynysu ar fâs.
  • Bâs – polyn yw'r bâs nid clustog.
  • Bat – Mae gan y bat wyneb fflat i darro'r bêl.
  • System Sgorio - ceir pwynt am bob bâs bydd yn cyrraedd wedi iddo darro'r bêl ond nid yw'n ennill rhagor o bwyntiau wrth redeg o un bâs i'r llall wedi i chwaraewr arall darro'r bêl. Bydd rhediad llawn (home run) yn creu cyfanswm o bedair pwynt felly. Fel mewn criced, gwobrwyir pwyntiau cosb i'r gwrthwynebwyr am fowlio gwael di-gyfeiriad.

Er gwaetha'r tebygrwydd i criced, mae'r gêm yn debycach i bêl fas mewn steil a chwaraeir hi mewn deiamwnd tebyg iawn ond llai.

  • Gwisg - gwisga'r timau addasiad o git tim rygbi neu bêl-droed: crys, trowsus byrion a sannau hyd at y penglin gydag esgidiadu pêl-droed am eu traed. Fel nodwyd eisoes, mae nifer o'r timau yn estyniad haf o dim rygbi lleol e.e. Ystum Tâf (Llandaf North) yng Nghaerdydd.

Bwrdd Pêl fas Ryngwladol[golygu]

Sefydlwyd y Bwrdd Pêl fas Ryngwladol yn 1927 a dyma ei chorff ryngwladol llywodraethol. Ei hunig aelodau yw Undeb Pêl fas Cymru a Chymdeithas Pêl fas Lloegr.

Poblogrwydd[golygu]

Chwraeir y gêm yn neheudir Cymru yng Nghaerdydd a Chasnewydd ac ardal Lerpwl yn Lloegr.

Erbyn 2006 roedd poblogrwydd y gêm yn Lerpwl wedi cwympo i'r fath raddau mai dim ond 4 clwb sy'n weddill yn actif - All Saints, Anfield, Breckside and Townsend. Mae'r gêm yng Nghymru'n llawer cryfach a gwelwyd tŵf mewn poblogwyrr yn y gêm yn arbenig ymhlith merched.

Ceir gemau a chynghreiriau yn y ddwy wlad a gêm ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr ers 1908. Gwyliodd torf o 16,000 y gêm ryngwladol rhwng y ddwy wlad ar erddi Castell Caerdydd yn 1948. Cynhalwyd gemau rhynglwadol ar feysydd Parc yr Arfau yn Nghaerdydd a Goodison Park yn Lerpwl hyd yn oed. Cwympodd y niferoedd yn y gemau rhynglwadol a bellach ychydig dros mil sy'n mynychu'r gemau.

Cyfeirlyfr[golygu]

  • John Arlott, ed. (1975). The Oxford Companion to Sports and Games. Oxford University Press

Dolenni allanol[golygu]