Pêl-droed yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012

Oddi ar Wicipedia

Cynhaliwyd twrneimant Pêl-droed yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 o 25 Gorffennaf hyd 11 Awst. Chwaraewyd y gemau pêl-droed mewn sawl stadiwm, nid yn unig yn y ddinas westai, Llundain, ond ym Manceinion, Newcastle, Coventry, Glasgow a Chaerdydd yn ogystal. Chwaraewyd y rownd derfynnol yn Stadiwm Wembley.

Gwahoddwyd cymdeithasau sy'n gysylltiedig â FIFA i gystadlu gyda'u tîm merched cenedlaethol, a thîm dynion odan 23 oed. Roedd hawl gan dimau'r dynion i newid eu tîm ychydig gan gyfnewid tri chwarawr am rai dros 23 oed. Disgwylwyd i 504 o chwaraewyr i gymryd rhan yn y ddau dwrnemaint.[1]

Ymryson[golygu | golygu cod]

Cafodd tîm merched Iran[2] a thair chwaraewraig o Jordan eu gwahardd rhag chwarae yn yr ail rownd gymhwyso yn 2011 am beidio a chydlynu gyda chôd gwisg FIFA; roeddent wedi cael chwarae gyda'u pennau wedi eu gorchuddio yn y rownd gyntaf. Gwaharddodd FIFA y hijab yn 2007,[3] er fod hyn wedi cael ei ddiddymu yn 2012 ac mae FIFA yn caniatáu'r hijab erbyn hyn.[4]

Cwynodd tîm merched Japan am iddynt gaeleu anfon ar daith awyren 13 awr dosbarth economi, tra bod tîm y dynion wedi cael eu hedfan drosodd mewn dosbarth busnes. Dywedodd Cyngrhair Pêl-droed Japan bod hyn oherwydd mai chwaraewyr proffesiynol oedd y dynion.[5]

Ar ddiwrnod cyntaf y gystadleuaeth, ar 25 Gorffennaf, cyn gêm bêl-droed merched Colombia yn erbyn Gogledd Corea yn Hampden Park, cerddodd tîm Gogledd Corea i ffwrdd o'r cae pan ddangoswyd baner De Corea mewn camgymeriad. Cychwynnodd y gêm yn hwyr o ganlyniad.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Football". London2012.com. London 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-30. Cyrchwyd 2 August 2008.
  2. Sanam Shantyei. "Iran women's Olympic dream crushed by dress code ruling", Arab News, 6 Mehefin 2011.
  3. Vijai Singh. "Headscarves for Women’s Games Near Approval", 3 Mawrth 2012.
  4. "Hijabs approved for soccer players by FIFA", 5 Gorffennaf 2012.
  5.  Olympics 2012 – Japan women fly economy; men get upgrade. ESPN (19 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2012.
  6. Donna Bowater. "London 2012 Olympics: North Korea women footballers protest over flag gaffe", 25 Gorffennaf 2012.