Pêl-droed Wyddelig

Oddi ar Wicipedia
Tyrone yn erbyn Kerry yn gêm derfynol 2005

Gêm a chwaraeir yn bennaf yn Iwerddon yw Pêl-droed Wyddelig (Gwyddeleg: Peil, Peil Ghaelach neu Caid, Saesneg: Gaelic football). Mae'n un o chwaraeon mwyaf poblogaidd Iwerddon.

Chwaraeir Pêl-droed Wyddelig gan dimau o 15 chwaraewr yr un. Mae'r pyst ar ffyrf llythyren H, fel pyst rygbi, ond ceir rhwyd ar y rhan isaf. Gellir sgorio un pwynt trwy gael y bêl rhwng y pyst, neu sgorio gôl, sy'n werth tri phwynt, trwy gael y bêl i'r rhwyd. Gellir defnyddio'r dwylo a'r traed i symud y bêl ymlaen. Fel rheol, mae dau hanner o 30 munud yr un; ond ar y lefel uchaf mae dau hanner o 35 munud yr un. Mae'r bêl yn debyg i bêl ar gyfer pêl-droed, ond yn drymach. Uchafbwynt y tymor yw gêm derfynol Pencampwriaeth Bêl-droed Holl-Iwerddon, sy'n cael ei chwarae ym Mharc Croke, Dulyn ar y pedwerydd dydd Sul ym mis Medi fel rheol. Enillwyd pencampwriaeth 2008 gan Tyrone. Ceir tyrfa o 80,000 yn rheolaidd i'r gêm yma.

Pêl-droed Wyddelig yw un o'r pedwar camp Gwyddelig sy'n cael eu rhedeg gan y Gymdeithas Athletau Gwyddelig, y corff chwaraeon mwyaf yn Iwerddon.