Pádraic Ó Conaire

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Llenor a newyddiadurwr yn yr iaith Wyddeleg (yn bennaf) oedd Pádraic Ó Conaire (20 Chwefror 1882 – 6 Hydref 1928). Roedd yn frodor o Galway, gorllewin Iwerddon. Fe'i ystyrir yn un o ffigurau mwyaf llenyddiaeth Wyddeleg yr 20fed ganrif.

Ei fywyd[golygu]

Ganwyd Ó Conaire yn fab hynaf i dafarnwr yn Galway. Trist fu hanes y teulu; bu farw'r rhieni cyn i'r bachgen gyrraedd 12 oed. Aeth ef a'i frodyr i fyw gyda'u hewythr yn Gairbh-Eanach, Ros Muc, Conamara. Tyfodd i fyny yyn yr ardal wledig honno a daeth i fesitrioli'r Wyddeleg; pur Saesneg ei haith oedd tref Galway ond roedd Ros Muc yn rhan o'r Gaeltacht a'r iaith yn fyw ar dafod leferydd.

Yn 1899 aeth i weithio fel clerc i'r Bwrdd Addysg yn Llundain. Yno daeth i gysylltiad â'r Conradh na Gaedhilge (Cynghrair y Wyddeleg) a dechreuodd lenydda. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 penderfynodd Pádraic ddychwelyd i Iwerddon a cheisio ennill ei damaid trwy lenydda yn yr iaith a garai.

Treuliodd weddill ei oes yn ei wlad enedigol yn crwydro'r wlad. Daeth i arfer â thlodi a chaledi ond roedd yn benderfynol o gyfrannu at lenyddiaeth ei wlad. Daeth yn gymeriad adanbyddus ledled Iwerddon ond er iddo gyhoeddi sawl cyfrol o straeon byrion ni chafodd lwyddiant ariannol. O'r diwedd, yn 1928, penderfynodd fynd i Riga, prifddinas Latfia, efallai am fod yr holl sôn am y Chwyldro yn Rwsia wedi gafael yn ei ddychymyg a'i gyffroi. Byr fu ei arosiad yno a phan ddychwelodd i Ddulyn syrthiodd yn sâl yn ddirybudd. Bu farw yn Ward y Tlodion yn Ysbyty Richmond ar y chweched o Hydref y flwyddyn honno. Y cwbl a gafwyd yn ei feddiant oedd pibell, owns o faco ac afal.

Ei waith[golygu]

Yn ei straeon byrion mae dylanwad llenyddiaeth Ffrangeg a llenyddiaeth Saesneg yn amlwg. Mae'n bosibl ei gymharu â Maupassant. Sgwennai am y cefn gwlad, y trefi a'r pentrefi, Llundain a gwledydd tramor. Roedd ei destun a'i arddull yn chwa o awyr iach yn llenyddiaeth Wyddeleg y cyfnod, oedd yn drwm dan ddylanwad y chwedlau gwerin a wastad ynghlwm wrth yr Iwerddon wledig. Un nofel yn unig a gyhoeddodd, sef Deoraidheacht ('Ar wasgar') yn 1910.

Llyfryddiaeth[golygu]

Llyfrau Ó Conaire[golygu]

  • An Scoláire Bocht, agus scéalta eile, 1904
  • Nora Mharcais Bhig, 1906
  • Deoraidheacht, 1910
  • An Scoláire Bocht, agus scéalta eile, 1913
  • An Chéad Chloch, 1914
  • Seacht mBua an Éirí Amach, 1918
  • An Crann Géagach, 1919
  • Tír na n Íontais, 1919
  • Béal an Uaignis, 1921
  • Siol Éabha, 1921
  • An Chinniúint, 1924
  • Eachtraí Móra ón ár Stair, 1924
  • Trí Truaighe na Scealaíochta, 1924
  • Mór thimpeall na hÉireann, ar muir, 1925
  • Fearfeasa Mac Feasa, 1930
  • Brian Óg
  • Beagnach Fíor
  • Cubhair na dTonn
  • Scéalta an tSáirsint Rua
  • Seoigheach an Ghleanna
  • M'asal Beag Dubh

Cyfieithiadau Cymraeg[golygu]

  • Storïau ac Ysgrifau gan Pádraic Ó Conaire, Trosiadau o'r Wyddeleg gan J. E. Caerwyn Williams (Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1949)
  • Ystoriau Byr o'r Wyddeleg gan Pádraic Ó Conaire, cyf. Tomás Ó Cléirigh a David Myrddin Lloyd (Llandysul, 1934)

Dolenni allanol[golygu]

  • Tom Kenny, "Ó Conaire — an fear", Galway Advertiser, 23 Chwefror 2007. Erthygl fer gyda llun prin o'r awdur.