Owen Rhoscomyl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Awdur llyfrau plant a hanesydd poblogaidd o Gymru oedd Owen Rhoscomyl (enw bedydd: Robert Scourfield Mills, 1863 - 1919). Mabwysiadodd yr enw Arthur Owen Vaughan yn ddiweddarach ond roedd yn adnabyddus yn bennaf wrth ei ffugenw llenyddol.

Bywyd[golygu]

Ganed Rhoscomyl yn Southport, Glannau Merswy, ond cafodd ei fagu gan ei nain ym mhentref Tremeirchion, Sir y Fflint. Rhedodd i ffwrdd i grwydro'r byd pan yn llanc a threuliodd gyfnod yn Ne Affrica lle arweiniodd gatrawd o feirch yn Rhyfel y Boer.

Dychwelodd i Gymru ac ymroddodd i lenydda yn Saesneg. Ymddengys nad oedd yn medru llawer o Gymraeg oherwydd ei fagwraeth, ond ymfalchiai yn ei dras Gymreig a mabwysiadodd yr enw mwy Cymreig 'Arthur Owen Vaughan'. Mae'r cyfenw gwneud yn ei ffugenw, 'Owen Rhoscomyl', yn dod o lythrennau cyntaf ei enw bedydd.

Gwaith llenyddol[golygu]

Flame-bearers of Welsh History (1905).

Cyhoeddodd sawl nofel antur Saesneg i fechgyn, yn cynnwys The White Rose of Arno (1896), a leolir yng ngwledydd Prydain yng nghyfnod y Jacobiniaid. Nofel arall, a leolir yng Nghymru, yw The Jewel of Ynys Galon (1895).

Ond ei waith mwyaf adnabyddus a dylanwadol yw Flame-Bearers of Welsh History, a gyhoeddwyd ym Merthyr Tudful yn 1905. Ei deitl llawn yw: Flame-bearers of Welsh history, being the outline of the story of The sons of Cunedda. Cyfrol i fechgyn ysgol oedd hon, ond roedd ei nod yn uchelgeisiol. Dymunai Rhoscomyn adfer ei le priodol i hanes Cymru yn ysgolion y wlad a dileu'r agweddau Seisnigaidd ar ei astudiaeth trwy ddod ac arwyr y gorffennol yn fyw o flaen llygaid ei ddarllenwyr. Ceir rhagymadrodd gan Syr John Rhŷs a Kuno Meyer, dau o ysgolheigion Celtaidd mwyaf y cyfnod. Gwnaeth y Flame-bearers lawer i ledaenu gwybodaeth am Owain Glyndŵr, er enghraifft. Fe'i disgrifir fel arwr a ymgeleddai'r werin bobl: yn ateb i'r cwestiwn "ble gladdwyd Glyndŵr?" ceir yr ateb ei fod yn gorffwys yng nghalon pob gwir Gymro lle bydd yn aros yn ysbrydoliaeth i'r genedl am byth.[1] Ond nid oedd y llyfr gwladgarol twymgalon hwn yn gymeradwy gan bawb a chafwyd ymateb adweithiol yn ei erbyn gan rai o "Sanhedrin" y system addysg yng Nghymru ac academyddion y Sefydliad. Gwerthodd nifer fawr o gopïau er hynny, ac mae lle i ddadlau ei fod yn un o'r cyfrolau hanes poblogaidd mwyaf dylanwadol erioed yng Nghymru, a gafodd ei ddarllen gan gynulleidfa ehangach o lawer na'r un yr anelwyd ati yn wreiddiol.

Llyfryddiaeth[golygu]

Nofelau[golygu]

  • The Jewel of Ynys Galon (1895)
  • The White Rose of Arno (1896)
  • Old Fireproof (1906)
  • Vronina (1907)
  • Love Tree Lode (1913)

Llyfrau hanes[golygu]

  • Flame-Bearers of Welsh History (Merthyr Tudful, 1905)
  • The Matter of Wales (1913)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Elissa R. Henken, National Redeemer, tud. 174.

Dolenni allanol[golygu]