Owen Gruffydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Owen Gruffydd ar ddechrau'r 18fed ganrif, darlun inc a geir mewn llawysgrif gyfoes.

Bardd, hynafiaethydd, ac achyddwr oedd Owen Gruffydd (c. 1643 - Rhagfyr, 1730). Yn enedigol o blwyf Llanystumdwy, Eifionydd, Gwynedd, canai ar y mesurau caeth a'r mesurau rhydd fel ei gilydd a daeth yn fardd poblogaidd yn ei ddydd. Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi yn Blodeu-gerdd Cymry (1759).[1]

Bywgraffiad[golygu]

Ganed y bardd yn 1643 (fe ymddengys). Yn ôl un traddodiad roedd yn fab perth a llwyn i offeiriad lleol. Roedd yn wehydd o ran ei grefft. Aeth yn ddall yn ystod ei oes. Bu fyw trwy amseroedd tymhestlus iawn, gyda Rhyfel Cartref Lloegr a'r Adferiad yn tarfu ar fywyd y Cymry ym mob rhan o'r wlad. Fe'i claddwyd ym mynwent eglwys plwyf Llanystumdwy ar 6 Rhagfyr 1730, yn henwr o oedran barchus yn yr oes honno, tua 87 oed.[1]

Gwaith llenyddol[golygu]

Fel bardd ar y mesurau caeth a ganodd gywyddau ac awdlau i rai o brif deuluoedd Arfon, Llŷn, Eifionydd a Meirionnydd, yr oedd i ryw raddau yn parhau â thraddodiad Beirdd yr Uchelwyr, er nad oedd yn fardd proffesiynol fel y cyfryw. Ond roedd yn fwy adnabyddus yng ngogledd Cymru ar droad y 18fed ganrif am ei gerddi ar y mesurau rhydd, yn enwedig ei garolau duwiol a moseol.[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyhoeddwyd rhai o gerddi'r bardd yn y blodeugerddi,

Golygwyd detholiad o'i waith gan O. M. Edwards:

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 O. M. Edwards (gol.), Gwaith Owen Gruffydd (Cyfres y Fil, 1904), rhagymadrodd.