Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn

Oddi ar Wicipedia

(Ailgyfeiriad oddi wrth Owain ap Gruffydd ap Gwenwynwyn)
Neidio i: llywio, chwilio

Etifedd teyrnas Powys Wenwynwyn ac un o arglwyddi'r gororau oedd Owain ap Gruffydd ap Gwenwynwyn neu Owen de la Pole (tua 1257 - tua 1293).

Roedd Owain yn fab i Gruffudd ap Gwenwynwyn, tywysgog Powys Wenwynwyn. Ganed ef yn LLoegr wedi i'w dad gael ei yrru o'i deyrnas gan Llywelyn ap Gruffudd yn 1257. Efallai tua'r adeg yma, mabwysiadodd y teulu yn cyfenw de la Pole, o "Poole", hen enw Y Trallwng ("Welshpool" yn Saesneg yn awr). Yn 1263, dan delerau Cytundeb Trefaldwyn, dychwelwyd y rhan fwyaf o'r diroedd i dad Owain, ar yr amod ei fod yn gwrogi i Lywelyn. Fodd bynnag, yn 1274 roedd Owain a'i dad mewn cynllwyn i lofruddio Llywelyn, a ffoesant i Loegr eto.

Dan delerau Cytundeb Aberconwy, dychwelwyd ei diroedd i Gruffudd ap Gwenwynwyn. Yn 1284, wedi marwolaeth Llywelyn, ymddengys i'r teulu ildio eu hawl i dywysogaeth Powys Wenwynwyn i Edward I, brenin Lloegr, a'i derbyn yn ôl ganddo fel un o arglwyddiaethau'r gororau.

Bu farw Gruffudd tua 1286, a daeth Owain yn Arglwydd Powys. Roedd yn briod a Joan Corbet, a chwsant ferch ac, yn ôl pob tebyg, bum mab. Ar ei farwolaeth tua 1293, aeth yr arglwyddiaeth i'w fab, Gruffudd neu Griffith, ac phan fu ef farw yn ddiblant yn 1309, aeth i'w ferch Hawise.

Ceir awdl iddo gan Llywelyn Fardd II.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • George Thomas Orlando Bridgeman "The Princes of Upper Powys" Montgomeryshire Collections Cyf. 1 tud. 201
Offer personol
Ieithoedd eraill