Owain fab Macsen Wledig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Owain Finddu)

Yn ôl traddodiad, un o feibion yr ymerawdwr Rhufeinig Macsen Wledig (m. 388) ac Elen Luyddog ferch Eudaf oedd Owain fab Macsen Wledig neu Owain Finddu. Mae rhai ffynonellau Cymreig yn gwneud Owain yn frawd i sant Peblig a Chystennin (Cystennin II neu Cystennin Fendigaid).

Yn achau traddodiadol Sant Cadog rhestrir Owain (Owein) yn fab i Facsen. Mewn llawysgrif arall rhoddir ach wahanol iddo ar ochr ei fam sy'n ei wneud yn un o ddisgynyddion Caswallon fab Beli.

Ni cheir cyfeiriad at Owain, na'r meibion eraill y dwyedir eu bod yn feibion Macsen ac Elen, yn y cofnodau hanesyddol am Facsen Wledig. Ond bu gan Facsen fab o'r enw Victor. Lladdwyd Victor yng Ngâl ar ôl i Facsen ei adael yno i'w rheoli ar ei ffordd yn ôl i Rufain. Mae Nennius, yn dilyn yr hanesydd Prosper o Aquitaine, yn dweud fod Eugenius wedi cymryd yr awennau yng Ngâl ar ôl Victor. Mae'n bosibl fod yr Eugenius hwnnw, sydd fel arall yn anhysbys, yn ymddangos yn y traddodiad Cymreig fel Owain fab Macsen Wledig (credir fod yr enw Cymraeg Owain/Owein/Ywein yn deillio o'r enw Lladin Eugenius, yn ôl pob tebyg, er nad yw pob ysgolhaig yn cytuno).

Dinas Emrys

Enwir Owain yn un o "Dri Chynweisiad Ynys Prydain" ("Tri (?)Phenswyddog Ynys Prydain") yn y Trioedd, gyda Caradog fab Brân a Cawrdaf fab Caradog.

Mae chwedl werin a gofnodir gan yr hynafiaethydd Edward Lhuyd yn cysylltu Owain gyda Dinas Emrys yn Eryri. Ymladdodd â chawr yn Nant Gwynant a chafodd ei ladd gan un o'r pelenni haearn a ddefnyddwyd gan y ddau i ymladd. Claddwyd Owain rhwng Dinas Emrys a Llyn Dinas. Roedd wedi ei glwyfo'n angeuol gan y cawr a saethodd saeth o'i fwa i'r awyr gan orchymyn i'w wŷr gael ei gladdu lle bynnag y disgynnai. Mae Iolo Morganwg yn cydio yn yr un stori lle mae'n galw Owain yn Owein Vinddu ac yn rhoi'r enw Urnach ar y cawr (ymddengys nid oes sail yn y traddodiadau i ychwanegiadau Iolo, sy'n enwog am ffugio traddodiadau).

Cyfeiria'r bardd Rhys Goch Eryri (15g), a oedd yn byw yn ardal Croesor, at Eryri fel "tir mab Macsen".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd 1991), tt. 477-8.