Owain Fôn Williams

Oddi ar Wicipedia
Owain Fôn Williams
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnOwain Fôn Williams
Dyddiad geni (1987-03-17) 17 Mawrth 1987 (37 oed)
Man geniPen-y-groes, Cymru
SafleGôlgeidwad
Gyrfa Ieuenctid
2003–2006Crewe Alexandra
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2006–2008Crewe Alexandra0(0)
2008–2011Stockport County82(0)
2010–2011Bury (ar fenthyg)6(0)
2011Rochdale22(0)
2011–2015Tranmere Rovers145(0)
2015–Inverness14(0)
Tîm Cenedlaethol
2003dan 17 Cymru1(0)
2004–2006dan 19 Cymru4(0)
2007–2008dan 21 Cymru11(0)
2015–Cymru1(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 13 Tachwedd 2015.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 13 Tachwedd 2015

Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Owain Fôn Williams (ganwyd 17 Mawrth 1987). Mae'n chwarae i Inverness Caledonian Thistle yn Uwch Gynghrair yr Alban ac i dîm cenedlaethol Cymru.

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod]

Crewe Alexandra[golygu | golygu cod]

Ar ôl cyfnodau gyda thimau ieuenctid Manchester United a Lerpwl, dechreuodd Williams ei yrfa gyda Crewe Alexandra gan arwyddo i academi'r clwb yn 2003[1], ond wedi methu a sicrhau ei le yn y tîm cyntaf penderfynod wrthod cynnig o gytundeb newydd yn 2008 gan symud i Stockport County.

Stockport County[golygu | golygu cod]

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Gynghrair Bêl-droed mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Huddersfield Town ar ddiwrnod agoriadol tymor 2008-09[2] a chreodd cystal argraff yn ei dymor cyntaf nes y cafodd ei enwebu'n Chwaraewr y Flwyddyn y clwb ar gyfer 2008-09[3].

Bury a Rochdale[golygu | golygu cod]

Disgynodd Stockport i Adran Un ar ddiwedd tymor 2009-10 ac er fod Williams â chymal yn ei gytundeb fyddai'n caniatau iddo adael y clwb yn rhad ac am ddim[4] methodd a chanfod clwb a symudodd i Bury F.C. ar fenthyg cyn arwyddo i Rochdale ym mis Ionawr 2010[5].

Tranmere Rovers[golygu | golygu cod]

Ar ôl cael ei ryddhau gan Rochdale ar ddiwedd tymor 2010-11, ymunodd Williams â Tranmere Rovers[6]. Wedi pediar blynedd gyda'r clwb, cafodd Williams ei ryddhau wedi i Tranmere ddisgyn allan o'r Gynghrair Bêl-droed ar ddiwedd tymor 2014-15.

Inverness Caledonian Thistle[golygu | golygu cod]

Ymunodd Williams ag Inverness Caledonian Thistle yn Uwch Gynghrair yr Alban ym mis Gorffennaf 2015[7] gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yng Nghynghrair Europa yn erbyn Astra Giurgiu o Romania[8]

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Mae Williams wedi cynrychioli Cymru dan 21, dan 19 a dan 17 a chafodd ei alw i garfan llawn Cymru am y tro cyntaf ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad Pwyl ar 11 Chwefror 2009 lle roedd yn un o'r eilyddion[9].

Casglodd ei gap cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 13 Tachwedd 2015 [10].

Personol[golygu | golygu cod]

Mae Williams yn hoff o arlunio yn ei amser hamdden[11] gyda'i waith yn cael ei arddangos mewn arddongasfa yn Oriel Betws y Coed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Owain Fôn Williams". Manchester Evening News.
  2. "Huddersfield 1-1 Stockport". BBC Sport. 2008-08-09.
  3. "Owain's Gong". Manchester Evening News.
  4. "Williams free to move". Sky Sports. 2010-07-02.
  5. "Rochdale sign Stockport goalkeeper Owain Fon Williams". BBC Sport.
  6. "Tranmere Rovers sign goalkeeper Owain Fon Williams". BBC Sport. 2011-07-01.
  7. "Inverness CT: Goalkeeper Owain Fon Williams joins Highlanders". BBC Sport. 2015-07-16.
  8. "Inverness CT 0-1 Astra Giurgiu". BBC Sport. 2015-07-16. ar yr un diwrnod.
  9. "Wales 0-1 Poland". www.welshfootballonline.com.
  10. "Wales 2-3 Netherlands". www.welshfootballonline.com.
  11. "Y Golwr a'i gelf". BBC Cymru Fyw. 2015-08-14.