Osian Roberts

Oddi ar Wicipedia
Osian Roberts
Gwybodaeth Bersonol
Man geniSir Fôn, Cymru
SafleCanolwr cae canol
Y Clwb
Clwb presennolCymru (is-reolwr)
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
Dinas Bangor
Prifysgol Furman
New Mexico Chiles
Timau a Reolwyd
New Mexico Chiles
1996–1999Cymru dan-16
1996–1999Cymru dan-18
1999Cymru B
1999–2007Porthmadog
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau).

Hyfforddwr pêl-droed Cymreig yw Osian Roberts sydd yn is-reolwr Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru[1] ers 21 mis Gorffennaf 2015.[2]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Roberts ar Ynys Môn,[3] a magwyd ef ym Modffordd.

Mynychodd Ysgol Gyfun Llangefni.[4] Roedd yn bêl-droediwr talentog ac yn gapten tîm Ysgolion Cymru. Yn 1985 derbyniodd Ysgoloriaeth Pêl-droed, i astudio am radd mewn Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Furman yn Ne Carolina yn yr Unol Daleithiau.

Teledu[golygu | golygu cod]

Darlledwyd cyfres ddogfen deledu o'r enw Byd Pêl-droed Osian Roberts ar S4C yn 2014.[5][6]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Ar 17 Gorffennaf 2017 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor[7] yr oedd eisoes wedi derbyn Cymrodorion Anrhydeddus gan Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.[8]

Yn 2017 cafodd ei benodi’n Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 a chafodd ei urddo i wisg las Gorsedd y Beirdd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Yn 2016 cyhoeddwyd ei hunangofiant Môn, Cymru a’r Bêl gan gwmni’r Lolfa [9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/36746432
  2. http://www.bbc.co.uk/sport/football/33612989
  3. "Osian's a football power in Wales". Wales Online. 24 Mehefin 2007. Cyrchwyd 5 Ebrill 2014. Unknown parameter |iaith= ignored (help)
  4. "Byd Pêl-droed Osian Roberts". S4C. Cyrchwyd 5 Ebrill 2014.
  5. http://www.s4c.cymru/ffeithiol/e_byd-pel-droed-osian.shtml
  6. http://www.bbc.co.uk/programmes/p02rv1yh
  7.  Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor. Prifysgol Bangor (17 Gorffennaf 2017).
  8. Osian Roberts yw Llywydd yr Wyl 2017[dolen marw] adalwyd 20 awst 2017
  9. Gwales Môn, Cymru a'r Bêl Osian Roberts, Lynn Davies, Y Lolfa, Mawrth 2016 ISBN 9781784612276