Osi Rhys Osmond

Oddi ar Wicipedia
Osi Rhys Osmond
Ganwyd28 Mehefin 1942 Edit this on Wikidata
Wattsville Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mawrth 2015 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata

Roedd Osi Rhys Osmond (19436 Mawrth 2015)[1][2][3] yn arlunydd o Gymro ac yn gyflwynydd teledu a radio achlysurol. Roedd hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe ac yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Rhys Osmond[4] yn dod o Wattsville, Dyffryn Sirhywi, Caerffili, a'i deulu yn fwynwyr.[5]  Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Celf Casnewydd a Choleg Celf Caerdydd. Roedd wedi cael ei hudo gan liw trwy gydol ei yrfa: "Colour is the basis of my craft - I talk through colour, I speak through colour, I use colour to express myself and convey my ideas", fel y dywedodd wrth y Western Mail yn 2009.

Yn 2006, cyflwynodd Osmond y gyfres deledu Gymraeg, 'Byd o Liw', ar S4C.[6] Roedd hefyd wedi cyflwyno darnau ar BBC Radio 3.[7][8]  Ym mis Mawrth 2012, cafwyd proffil o Osmond ar The Culture Show ar y BBC.[9] Ym mis Mehefin 2012 roedd Osmond yn cyd-gyflwyno ac yn fentor ar y gyfres deledu, The Exhibitionists, ar BBC Wales, gyda'r cyfranogwyr yn cystadlu i ddod yn arbenigwyr mewn celf. Fe ysgrifennodd ar y cyflwyniad gweledol o Dde Cymru mewn cyfnodolion fel y Planet, New Welsh Review, Tu Chwith, Barn a Golwg.  Yn 2006 cyhoeddodd 'Carboniferous Collisions', ar yr arlunydd Josef Herman.

Ym mis Ebrill 2012 dychwelodd Osmond i fro ei febyd i gynnal arddangosfa o'i waith, fel teyrnged i'w deulu a'r gymuned leol. Roedd yn byw yn Llansteffan, Sir Gaerfyrddin. Daeth yn aelod o'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006, a chafodd ei urddo yn gymrawd er anrhydedd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Ngorffennaf 2013.

Marw[golygu | golygu cod]

Bu farw Osmond yn Sir Gaerfyrddin ar 6 Mawrth 2015, yn 71 oed, ar ôl brwydr hir gyda chancr, gan adael ei wraig, Hilary, ei ddau fab Luke and Che o'i briodas gyntaf gyda Linda Prime, a Sara merch Hilary.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-23. Cyrchwyd 2017-07-19.
  2. Profile Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback., literaturewales.org; cyrchwyd 10 Mawrth 2015.
  3. Profile, bmdsonline.co.uk; cyrchwyd 10 Mawrth 2015.
  4. Profile, britainisnocountryforoldmen.blogspot.ca; cyrchwyd 14 Mawrth 2015.
  5. "Artist's tribute to landscape and childhood", southwalesargus.co.uk, 9 Ebrill 2012; cyrchwyd 8 Mawrth 2015.
  6. Byd o Liw, S4C.co.uk, adalwyd 8 Mawrth 2015.
  7. Twenty Minutes: Two Welsh Hills, BBC Radio 3, 3 Awst 2009.
  8. "Free Thought: Osi Rhys Osmond", BBC Radio 3; cyrchwyd 8 Mawrth 2015.
  9. The Culture Show: Episode 24, BBC 2, 3 Mawrth 2012; cyrchwyd 8 Mawrth 2015.