Osgeg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Osgeg yn iaith hynafol farw a sieredid gan y Samniaid yn ne'r Eidal hyd at yr ail ganrif C.C..

Gyda'r Wmbreg, mae'n perthyn i gangen Osgo-Wmbreg yr Ieithoedd Italaidd ond mae ei pherthynas ieithyddol â Lladin yn bwnc dadleuol.

Hanes[golygu]

Roedd Osgeg yn enw a roddwyd gan y Rhufeiniaid ar dafodiaith yr Osgiaid, un o'r llwythi Samniaidd yn Campania, ac a ddaeth i gael ei ddefnyddio i olygu iaith y Samniaid yn gyffredinol.

Er i'r Samniaid dderbyn goruchafiaeth Rhufain yn y flwyddyn 290 C.C., roeddent yn parhau i ddefnyddio'r iaith Osgeg fel iaith swyddogol hyd at y Rhyfel Gymdeithasol yn 90-89 C.C. pan gollodd y Samniaid eu hannibyniaeth. Ymddengys fod Osgeg fel iaith lafar wedi goroesi hyd yr ail ganrif O.C.

Olion ac arysgrifau[golygu]

Ac eithrio enwau personol ac enwau lleoedd a ddyfynir gan awduron Lladin a Groeg, mae'r iaith yn adnabyddus o'r tua 200 arysgrif Osgeg sydd wedi goroesi. Er bod un testun yn weddol hir, tua 300 o eiriau, mae'r rhan fwyaf yn fyr iawn ac mewn canlyniad mae ein gwybodaeth o Osgeg yn gyfyng. Daw o gwmpas tri chwarter yr arysgrifau hyn o Campania ei hun. Maent wedi'u hysgrifennu mewn gwyddor frodorol seiliedig ar y Wyddor Roeg a'r wyddor Etrwseg. Mae'r ffaith fod iaith yr arysgrifau'n gyson a sefydlog yn awgrymu fod gan yr iaith lenyddiaeth safonol ar un adeg.

Rhai geiriau Osgeg[golygu]

  • pon pan
  • tout(am) cf. Cymraeg tylwyth, Hen Wyddeleg tuatha
  • lig(ud) deddf, cf. Lladin legs
  • aut ond
  • mall(ud) maleisus
  • allo arall / eraill
  • fame(lo) teulu / cartref
  • pud beth?, cf. Lladin quod
  • kom cyf-, cf. Lladin cum-, con-
  • nessimas nesaf, Hen Wyddeleg nessam
  • trsto-, tristo - tyst
  • pompe pump (efallai sylfaen y gair "Pompeii"?)

Llyfryddiaeth[golygu]

  • C.D. Buck, A Grammar of Oscan and Umbrian (1928)
  • Leppmann, Wolfgang, Pompeii in Fact and Fiction Elek Books, Llundain 1968
  • Elcock, W.D., The Romance Languages Faber a Faber, Llundain 1960
  • Edmonds, J.M., An Introduction to Comparative Philology for Classical Students Gwasg Prifysgol Caergrawnt 1906
  • geirfa yn: Hudson-Williams,A Short Grammar of Old Persian Gwasg Prifysgol Cymru 1936, 1963
  • geirfa yn: Thurneysen, R., A Grammar of Old Irish Dublin Institute for Advanced Studies, Dulyn 1980 ac ati.