Oranjestad
Oddi ar Wicipedia
- Am y dref o'r un enw yn Antilles yr Iseldiroedd gweler Oranjestad, Sint Eustatius.
Prifddinas Aruba yw Oranjestad. Mae'n enw Iseldireg sy'n golygu 'Tref Oren'. Fe'i lleolir ar arfordir y de ger pen gorllewinol yr ynys, ym Môr y Caribî. Yn yr iaith leol, Papiamento, cyfeirir at Oranjestad yn aml fel "Playa" ('Traeth'). Poblogaeth: 33,000 (amcangyfrifiad, 2,008).