Omphalos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Apollo yn eistedd ar yr Omphalos (darn arian bath, Antiochus Soter, c. 330 C.C.)

Y maen marmor (Groeg όμφαλός), yn Nheml Apollo yn Delphi, Gwlad Groeg, a ddynodai ganolbwynt y Byd, yn ôl y Groegwyr (ystyr omphalos yw "bogail", "navel"; daw'r gair Lladin umbilicus ohono, benthyciad o'r Roeg).

Safai yng nghysegrfa fewnol y deml o flaen cerflun aur o'r duw Apollo ac o'i flaen yr oedd yr aelwyd sanctaidd â'i fflam tragwyddol. Roedd ar ffurf silindraidd wedi'i addurno â brodwaith cerfiedig tebyg i rwydwaith o ganghennau; tybir mai coeden sanctaidd oedd yr omphalos yn wreiddiol. Roedd yn perthyn i'r amser cyn sefydlu'r pantheon Olympaidd, yn gysegredig i'r fam-dduwies Gaia. Yn ddiweddarach ddaeth yn rhan o gwlt y duw Apollo a chwareai ran bwysig yn nefodaeth Oracl Delphi.

Mae Omphalos yn enw ar un o frenhinesau cynnar Lydia yn ogystal. Mewn hen chwedl Roeg mae hi'n cael ei phortreadu fel merch eithriadol hardd a swynodd yr arwr Ercwlff (Hercules / Herakles). Dichon ei bod yn cynrychioli agwedd ar y Dduwies Fawr, neu offeiriades yn ei gwasanaeth, yn y chwedl honno.

Ceir Omphalos arall ar ynys Crete. Dywedir bod llinyn umbilical y duw Zeus wedi disgyn i'r ddaear yno.

Ffynonellau[golygu]

  • J. Lempriere, A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (argraffiad newydd, Llundain, 1902)