Omegle

Oddi ar Wicipedia
Logo swyddogol Omegle

Gwefan negeseuon ennyd yw Omegle. Prif pwrpas y wefan yw i siarad a phobl diethr ac i greu ffrindiau newydd trwy cyfathrebu'n ddienw. Mae'r wefan yn gwneud hyn trwy creu pâr ar hap mewn ffenestr sgwrs ac yn gofyn i'r ddau siarad trwy ddefnyddio'r enwau You a Stranger. Gall unrhyw un o'r siaradwyr allgofnodi ar unrhyw bryd. Oherwydd hyn, slogan y wefan yw "Talk to strangers!" Caiff y wefan ei greu gan Leif K Brooks a chaiff ei lawnsio ar 25 Mawrth 2009. Ddaw'r enw Omegle o'r eiriau omega a Google.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ar ôl ei lawnsiad ym Mawrth 2009, caiff y wefan ddim ond tua 100 o ddefnyddwyr ar unrhyw un amser (nid oes rhaid mewngofnodi i ddefnyddio'r gwasanaeth). Ers Tachwedd 2009, gall y poblogaeth ar-lein cyrraedd 5000 o ddefnyddwyr a mae'r wefan yn hawlio i gael 150,000 ymwelwyr y dydd.

Ymryson[golygu | golygu cod]

Caiff wefannau fel Omegle ei alw'n wefannau sgwrs ddienw, sgwrs diethr neu sgwrs 1-wrth-1. Nid oes cyfyngiadau oed ar y wefan a nid oes unrhyw beth i stopio pobl rhag datguddio eu manylion personol. Hefyd nid oes hidlydd cabledd neu cynnwys ac oherwydd hyn mae yna llawer o rybuddion yn erbyn y wefan. Ddywedir y BBC taw "nid wefan i blant yw hwn".

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]