Omake

Oddi ar Wicipedia

Ystyr Omake (御負け, sy'n cael ei sgwennu yn Japaneg fel おまけ) ydy "ychwanegol". Mae'r gair yn cael ei ddefnyddio mewn manga ac weithiau mewn anime i ddisgrifio'r pethau "fandom" ychwanegol ac yn golygu'r pethau 'bonws' a roddir i'r darllenydd neu'r gwyliwr.[1]

Yn yr Unol Daleithiau mae'n cael ei ddefnyddio am elfennau megis cyfweliad efo'r actorion neu glipiau sydd heb eu cynnwys ar y DVD. Ond mae'r term yn Japan yn bodoli er o leaif hanner canrif ac yn cyfeirio at bethau fel fferins neu deganau sy'n cael eu cynnwys am ddim efo'r nwyddau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]