Olion Byw

Oddi ar Wicipedia
Olion Byw yn perfformio yng Ngŵyl Tegeingl yn 2012; llun: Llinos Lanini.

Deuawd gwerin draddodiadol ydy Olion Byw, sef: Lucy Rivers a Dan Lawrence.[1] Rhyngddynt mae'r ddau gerddor yn chwarae cyfuniad o ffidil, gitar, mandolin a llais. Cenir caneuon traddodiadol Cymraeg, wedi'u trefnu'n fodern.

Eu halbwm cyntaf oedd "Hen Bethau Newydd";[2] sy'n cynnwys y caneuon: Lisa Lân, Ym Mhontypridd mae 'Nghariad, Doed a Ddêl a Gwyngalch Morgannwg. Recordiwyd a chynhyrchwyd yn Stiwdio Un, Caerdydd, 2010-2011.

Perfformiodd y grŵp yng Ngŵyl Tegeingl yn 2012.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan trac-cymru.org; adalwyd 25/11/2012.
  2. Gwefan Bandcamp; adalwyd 25/11/2012.