Olga Seryabkina
| Olga Seryabkina | |
|---|---|
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Enw genedigol | Olga Yurievna Seryabkina (Ольга Юрьевна Серябкина) |
| Enw arall | Olya |
| Ganwyd | 12 Ebrill, 1985 |
| Man geni | |
| Cerddoriaeth | Pop, Dawns |
| Galwedigaeth(au) | Cantores, Actores, Ysgrifennwr caneuon |
| Offeryn(au) cerdd | Llais |
| Blynyddoedd | 2004—presennol |
| Label(i) recordio | Monolit Records |
| Cysylltiedig | Serebro |
| Gwefan | Gwefan Serebro |
Cantores ac ysgrifennwr caneuon Rwsia yw Olga Seryabkina (Rwsieg:Ольга Юрьевна Серябкина; ganed 12 Ebrill 1985 ym Moscow, Rwsia). Mae hi'n enwog fel aelod o'r grŵp a gynrychiolodd Rwsia yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2007.
Cynnwys |
1992-2006: Gyrfa cynnar [golygu]
Dechreuodd Seryabkina astudio bale pan oedd hi'n 7 oed a phan oedd hi'n 17 oed dilynodd hi gyrfa chwaraeon a chyfranogodd yn amryw cystadleuaethau rhyngwladol. Gweithiodd hi fel dawnsiwr/cantores gefnogaeth i'r gantores Rwsia Iraklij o 2004 - 2006.
2007-presennol: Serebro [golygu]
Daeth Elena Temnikova â Seryabkina i'r castio Serebro, roedd Temnikova aelod yn barod, ac ymunodd Seryabkina â'r grŵp. Cynrychiolodd Serebro Rwsia yn Eurovision 2007 gyda'r gân "Song #1" (cân gyntaf y grŵp) a daethant yn drydydd yn y gystadleuaeth. Daeth Serebro yn un o'r artistiaid mwyaf poblogaidd yn Rwsia a dechreuodd Seryabkina ysgrifennu caneuon i'r grŵp yn 2007. Hefyd yn 2007, roedd suon am y posibilrwydd y byddai Seryabkina'n gadael y grŵp o achos tensiwn rhyngddi hi a Temnikova. Dywedodd Maxim Fadeev, cynhyrchydd y grŵp, ei fod e wedi ffeindio olynydd i Seryabkina ond penderfynodd hi beidio a gadael y grŵp.
Bywyd personol [golygu]
Graddiodd Seryabkina yn yr ysgol celf, enillodd diploma addysg uwch ar gyfer arbenigaeth yn y byd cyfieithiad ac entrepreneuriaeth. Gall hi'n siarad Rwsieg, Saesneg ac Almaeneg yn rhugl.
Dolenni allanol [golygu]
- (Rwseg) (Saesneg) Gwefan Serebro
|
|||||||||||||||||