Old Romney

Oddi ar Wicipedia
Old Romney
Eglwys Sant Clement, Old Romney
Mathplwyf sifil, pentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Folkestone a Hythe
Daearyddiaeth
SirCaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.99°N 0.895°E Edit this on Wikidata
Cod SYGE04005029 Edit this on Wikidata
Cod OSTR031251 Edit this on Wikidata
Cod postTN29 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a phlwyf sifil yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, ydy Old Romney.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Folkestone a Hythe.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 215.[2]

Yn yr hen amser roedd yn borthladd i Gors Romney. Yn oes y Rhufeiniaid fe'i gelwid yn Vetus Rumellenum. Bryd hynny roedd yn sefyll ar ynys yn hen aber Afon Rother. Fodd bynnag, llanwodd yr afon â llaid, ac erbyn Llyfr Dydd y Farn (1086), roedd New Romney wedi'i sefydlu fel porthladd newydd ar yr arfordir tua 3 km (2 filltir) i ffwrdd.[3] Ar ôl storm fawr ym 1287 newidiodd yr afon ei chwrs yn llwyr, i ymuno â'r môr yn Rye 12 km (7.5 milltir) i'r gorllewin, gan adael y pentref ar dir sych.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato