Old Compton Street

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arwydd stryd Old Compton Street

Mae Old Compton Street yn stryd sy'n mynd o ddwyrain i orllewin Soho, yn Llundain. Erbyn heddiw, mae'n cael ei hadnabod fel canolbwynt cymuned hoyw Llundain, ac mae ganddi nifer o glybiau a bariau hoyw, tai bwyta yn ogystal a theatr boblogaidd y Tywysog Edward.

Hanes[golygu]

Enwyd y stryd ar ôl Henry Compton, a gododd arian ar gyfer eglwys leol y plwyf. Enwyd yr eglwys yn Eglwys y Santes Anne ym 1686. Ar ôl i Siarl II o Loegr gynnig gwarchod y Protestaniaid ym 1681, poblogwyd yr ardal yn gyffredinol a'r stryd hon yn benodol gan ffoaduriaid o Ffrainc.

Erbyn diwedd y deunawfed ganrif, roedd gan lai na deg o dai ffenest siop ar eu tu blaen. Yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg, defnyddiwyd y mwyafrif o'r tai fel siopau, er bod gweithdai yn ogystal â thafarndai a thai bwyta yno hefyd. Parhaodd y nifer o mewnfudwyr i gynyddu a daeth y stryd yn enwog fel man cyfarfod ar gyfer pobl alltud, yn enwedig ar gyfer y Ffrancod; wedi iddynt gael eu herlid ym Mharis, arferai Rimbaud a Verlaine yfed yma hefyd.

Rhwng 1956 a 1970, lleolwyd Bar Coffi 2 I fan yma. Arferai nifer o gerddorion pop y 1960au chwarae yn y ganolfan gyfyng hon.