Olaudah Equiano

Oddi ar Wicipedia
Olaudah Equiano
Ganwydc. 1745 Edit this on Wikidata
Isseke Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mawrth 1797 Edit this on Wikidata
Dinas Westminster Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, hunangofiannydd, barber, masnachwr, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Interesting Narrative of the Life of Olaudah Equiano jr the third Edit this on Wikidata
Arddullhunangofiant, sylwebaeth gymdeithasol Edit this on Wikidata
PlantJoanna Vassa Edit this on Wikidata

Affricanwr a gafodd ei werthu'n gaethwas ac yn hwyrach ei ryddhau oedd Olaudah Equiano (tua 174531 Mawrth 1797). Ysgrifennodd gofiant, The Interesting Narrative of the Life of Olaudah Equiano; or, Gustavus Vassa, the African, Written by Himself (1789), oedd yn ddylanwadol yn y mudiad diddymiaeth i wahardd y fasnach gaethweision.

Ansicr yw ei fan geni. Honnodd Equiano iddo gael ei eni yn nhref o'r enw Essaka yng Ngorllewin Affrica, sydd o bosib yn Isseke yn Nigeria. Yn ei lyfr mae'n disgrifio cael ei gipio pan oedd yn 11 oed - i India'r Gorllewin ac yna Virginia. Mae rhai ysgolheigion modern yn credu iddo gael ei eni yng Ngogledd America. Treuliodd flynyddoedd olaf ei oes yn Stryd Paddington, Middlesex, ble y bu farw.[1]

Ym mis Tachwedd 1996 sefydlwyd Cymdeithas Equiano yn Llundain gyda'r nod o hyrwyddo gwybodaeth amdano ac am ei waith.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Vincent Carretta, Equiano, the African: Biography of a Self-made Man (University of Georgia Press, 2005), tud. 365.
  2. Equiano Society website


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.