Ogof y Tegeirianau, Maeshafn

Oddi ar Wicipedia
Ogof y Tegeirianau, Maeshafn
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Ogof ger pentref Maeshafn yn Sir Ddinbych ydy Ogof y Tegeirianau (SJ 2000 6051), a ystyrir yn hynod bwysig oherwydd y darganfyddwyd olion dynol o Oes Newydd y Cerrig ynddi.[1] Mae ceg yr ogof oddeutu un fetr a'i hyd oddeutu 7m.[2] Ceir sawl ogof o fewn canllath i'w gilydd. Ceir dwy ogof yma, sef Ogof y Tegeirianau I (SJ198605; PRN 34750) ac Ogof y Tegeirianau II (SJ1999060497; PRN 103035). Mae yn OyT II olion o'r Oes Haearn neu Rufeinig.

Darganfuwyd yma yn 1981 esgyrn tri pherson: dyn (oedolyn) eitha mawr, mab neu ferch glasoed a thrydydd person nad oes lawer o dystiolaeth am ei oed na'i ryw. Deuthpwyd o hyd i'r olion hyn yn 1981 gan archaeolegydd amatur: Mel Davies. Ymhlith yr offer llaw a ddarganfuwyd mae bwyell a wnaed allan o asgwrn, wedi'i addurno'n gain.[3] Mae'r darganfyddiadau hyn yn cael eu cadw gan Amgueddfa Cymru (rhif: 83.55H). Cafwyd tystiolaeth i OyT II yn ogystal â'r Ogof Fawr Ddirgel (gweler isod) gael eu defnyddio i gadw olion dynol, efallai fel rhan o ddefod.

Yr Ogof Fawr Ddirgel[golygu | golygu cod]

Tua chan metr i'r gogledd-orllewin, ac yn yr un coedwig, gorwedd yr 'Ogof Fawr Ddirgel' (Saesneg: Big Covert Cave) (SJ19796055 ; PRN 102318) sydd hefyd o bwys archaeolegol gan y canfuwyd yma olion o'r Oes Efydd neu Rufeinig.[4] Mae'rr ofog (fel nifer o rai eraill) wedi'u defnyddio dros sawl mileniwm. Cloddiwyd yma'n gyntaf gan Hesketh a Wyke yn 1948-9. Darganfuwyd yma nifer o dlysau: broetsh siap pysgodyn a modrwy - y ddau allan o efydd a phen saeth o'r Oes Efydd. Yn 1950 daeth Pritchard ar draws chwech ysgerbwd (Oldham 1991, 40). Amaturiaid i raddau, oedd y rhain, ac nid yw'r darganfyddiadau wedi'u harchwilio yn wyddonol, yn ôl CPAT.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Aldhouse-Green, S. et al. (1996) 'Holocene humans at Pontnewydd and Cae Gronw caves'. Antiquity 70: 444-447.
  • Brassil, K.S. & Guilbert, G.C. (1982) 'Caves in Clwyd'. Archaeology in Clwyd 4-5.
  • Davies, M. (1981) 'Identification of bones from Orchid Cave, Maeshafn, Clwyd'.
  • Guilbert, G. (1982) 'Orchid Cave'. Archaeology in Wales 22: 15.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cave Burial; adalwyd 20 Medi 2014.
  2. Gwefan Ogofâu Gogledd Cymru;[dolen marw] adalwyd 20 Medi 2014.
  3. Gweler: 'Clwyd Archaeology: Caves in Clwyd' gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys (cyhoeddwyd gan K. Brassil & G. Guilbert).
  4. Gwefan CPAT; The Scheduling Enhancement Programme R Hankinson and R J Silvester, Mawrth 2009, adroddiad i Cadw; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 3 Hydref 2014.